oedd, rhinweddau a ffaeleddau, pethau da a phethau drwg Lloyd George yn meddu dyddordeb a swyn.
Ceisir gosod y rhai hyn oll allan yn deg, yn onest, yn dyner, ac yn ddi-wenwyn, yn y llyfr hwn.
Ni chafodd yr un llyfr a ddaeth allan o'r wasg Seisnig o fewn yr ugain mlynedd diweddaf dderbyniad mor gyffredinol a di-eithriadol gynes gan feirniaid llenyddol Lloegr a Chymru, yr Alban a'r Werddon, ag a gafodd "The Life Romance of Lloyd George."[1] Cydnebydd pawb o honynt mai hwn yw y darlun mwyaf cywir, teg, cyflawn, a byw o'r Cymro byd-enwog, a gyhoeddwyd erioed.
Am danaf fy hun y prif gymwysder a feddwn i ysgrifenu'r llyfr oedd y cysylltiad agos a fodolodd am gynifer o flynyddoedd rhyngwyf a Mr. Lloyd George. Bum fwy yn ei gwmni, ac yn agosach yn ei gyfrinach, na nemawr i neb arall. Cydymgyngorasom ganwaith am ei bolisi a'i waith ar ran Cymru, y wlad a garem ein dau mor fawr ac mor angerddol. Nid oedd unrhyw ran nac arwedd o actau Apostol Cymru na wyddwn am dano mor llwyr ag y gwyddwn am fy ngweithredoedd fy hun. Felly, er nad wyf yn bradychu unrhyw gyfrinach yn y llyfr hwn, yr wyf yn adrodd rhai pethau na chyhoeddwyd mo honynt erined o'r blaen, ac na wyddai neb am danynt ond Mr. Lloyd George ei hun, ei gareion agosaf, a minau.
Pan geisiodd perchenog y "Drych" genyf droi'r gwaith i'r Gymraeg i'w gyflwyno i Gymry'r America, cydsyniais am ddau reswm mawr. Y cyntaf oedd fod
Lloyd George yn anwyl gan Gymry'r America. Yr ail