Tudalen:Rhamant Bywyd Lloyd George.djvu/163

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ymdrech etholwyr y deyrnas, yn ofer. O ddechreu ei yrfa yr oedd Lloyd George wedi ymddiofrydu y mynail osod terfyn bythol ar allu ac awdurdod unbenaethol Ty'r Arglwyddi. Eb efe wrth Gymru:

"Llys unochrog yw Ty'r Arglwyddi, yn eistedd mewn barn parhaol ar hawliau miliynau o Ymneillduwyr, gan y rhai nid oes obaith cael cyfiawnder yn y llys hwn."

Pan daflodd yr Arglwyddi allan Fesur Addysg y Rhyddfrydwyr cymellodd Lloyd George y Weinyddiaeth Ryddfrydol i roi her i awdurdod a gallu Ty'r Arglwyddi y pryd hwnw, ond gwrthododd y Cabinet. Wedi hyny, taflodd yr Arglwyddi Fesur y Trwyddedau allan, er i Archesgob Caergaint, a nifer o Esgobion Eglwys Loegr oeddent yn aelodau o Dy'r Arglwyddi, ddeisyf ar yr Arglwyddi i'w basio. Y pryd hwnw dywedodd Lloyd George:

"Edmygaf wrthsafiad cadarn Archesgob Caergaint yn ngwyneb bygythion brwnt y bragwyr, y rhai a dybient y medrent brynu pawb ag arian, ac nad oedd eisieu iddynt ond myned at offeiriad, a dweyd wrtho: 'Wele check; cewch hwn os gadewch y plant i gael eu sathru i'r llaid o dan draed y ddiod feddwol."

Yr oedd nifer o gwmniau o fragwyr a darllawyr wedi hysbysu drwy'r wasg y peidient danysgrifio mwyach at yr Eglwys a'i helusenau, am fod yr Esgobion yn pleidio Mesur y Trwyddedau. Gwnaed y drwg yn waeth gan Arglwydd Lansdowne, arweinydd y Toriaid yn Nhy'r Arglwyddi. Galwodd Lansdowne gyfarfod preifat o'r Arglwyddi Toriaidd i'w dy yn Llundain cyn penderfynu pa beth a wnai yr Arglwyddi a'r Mesur Trwyddedau. Penderfynodd y cyfarfod. preifat hwnw daflu'r mesur allan yn ddiseremoni, er