Tudalen:Rhamant Bywyd Lloyd George.djvu/165

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

frydol. Yn yr etholiad cafodd y Rhyddfrydwyr fwyafrif mawr drwy'r holl deyrnas.

Pan gyfarfu'r Senedd drachefn yn 1910 dygodd y Prif Weinidog gyfres o benderfyniadau ger bron Ty'r Cyffredin yn gosod allan yr egwyddorion a ganlyn:

1. Fod Ty'r Arglwyddi yn cael ei amddifadu o bob hawl i ymyryd a materion arianol y deyrnas.

2. Fod rhaid cyfyngu hawl Ty'r Arglwyddi i rwystro mesurau a besir gan Dy'r Cyffredin.

3. Fod rhaid cyfnewid cyfansoddiad Ty'r Arglwyddi fel ag i'w wneyd yn Dy etholedig yn lle yn Dy etifeddedig.

Wedi cael eu dychrynu wrth weled tymer y wlad, pasiodd yr Arglwyddi yn dawel y Gyllideb a daflwyd. allan ganddynt y flwyddyn o'r blaen. Ond safent yn gyndyn yn erbyn y penderfyniadau uchod, y rhai, fel y gwelir, a dorent o dan sail eu holl awdurdod.

Yna apeliodd Mr. Asquith at y wlad drachefn ar gwestiwn Ty'r Arglwyddi yn ngoleuni y penderfyniadau uchod, a thrachefn cefnogwyd ef gan y wlad, ond hyd yma safai awdurdod yr Arglwyddi fel cynt. Ni allai Ty'r Cyffredin orfodi Ty'r Arglwyddi i weithredu yn groes i'w ddymuniad ef ei hun. Ond yr oedd un arf eto gan y Prif Weinidog. Gall y Brenin, pan gymeradwya'r Prif Weinidog hyny, greu y neb a fyno yn "Arglwydd," yn meddu hawl i eistedd a phleidleisio yn Nhy'r Arglwyddi. Gallasai felly greu, ar gais y Prif Weinidog, bum cant o Arglwyddi newydd, digon i gario'r Mesur trwy bleidlais yn Nhy'r Arglwyddi. Gallasai wneyd y neb a fynai yn Arglwydd, y gweithiwr ar y fferm, y glowr yn y pwll, y torwr ceryg ar yr heol, y torwr beddau yn y fynwent, os mynai. Buasai