Dadleuai nad oedd y trethi newydd hyn yn gosod baich o gwbl ar enillion y gweithiwr nac ar angenrheidiau bywyd. Trethi y cyfoethog, yr hyn oedd gan bobl yn ngweddill, moethau bywyd, ydoedd, meddai. Nid oedd yr un o'r trethi newydd, meddai, yn ei gwneyd yn fwy anhawdd cael dau pen y llinyn yn nghyd i neb, a holl amcan y trethiant newydd hyn oedd gwella cyflwr y werin. Dyma sut y darlunia'r angen am hyn:
"Pa beth yw tlodi? A brofasoch ef eich hun? Os naddo, diolchwch i Dduw am arbed i chwi ei ddyoddefaint a'i brofedigaeth. A welsoch chwi eraill yn dyoddef tlodi? Yna gweddiwch ar Dduw i faddeu i chwi os na wnaethoch eich goreu i'w esmwythau. Daw'r dydd pan yr echryda'r wlad hon wrth feddwl ddarfod iddi oddef y pethau hyn a hithau mor gyfoethog. Ar wahan oddiwrth fod hyn yn annynol, ac yn hanfodol annghyfiawn, nid yw amgen na lladrad, atafaelu cyfran deg y gweithiwr o gyfoeth y wlad hon."
Naturiol oedd i'r dosbarthiadau hyny a drethid yn drwm gan ei gyllideb, wingo yn erbyn y symbylau. O'r pedair miliwn ar ddeg o bunau a godai mewn trethi newydd, cymerai wyth miliwn yn uniongyrchol oddiar y cyfoethogion, a dros chwe miliwn oddi ar y landlordiaid. Deuai dros bedair miliwn oddiwrth y diodydd a'r gwirodydd meddwol, ac yn agos i ddwy filiwn oddiwrth yr ysmygwyr. Chwerwodd y cyfoethog, y landlord, y bragwr, a'r darllaw-wr yn aruthr. Dywedodd