Tudalen:Rhamant Bywyd Lloyd George.djvu/196

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gynulleidfa yn mhob capel yn y dref y noson hono, a phasiwyd ef yn unfrydol ganddynt oll. Pellebrwyd y penderfyniadau hyny drachefn yr un noson i'r Cabinet, ac i Lloyd George. Aeth pawb i orphwys y noson hono yn esmwyth eu meddwl ac yn dawel eu cydwybod.

Dranoeth daeth y newydd fod Germani wedi tori ei hymrwymiad i barchu annibyniaeth Belgium, ac wedi treisio y wlad fechan ddiamddiffyn hono. Yn y man trodd Prydain, a Chymru oll, y bobl a bleidleisiasant nos Sul yn crefu ar y Cabinet i ymgadw rhag dwyn Prydain i drobwll gwaedlyd rhyfel Ewrop, oeddent yn awr, wedi gweled trais Germani ar Belgium, yn gwaeddi yn groch ac yn unllais am i'r Cabinet gyhoeddi rhyfel yn erbyn Germani. A hyny a wnaed!

Heddyw, pan mae dros haner miliwn (500,000) o ieuenctyd goreu Prydain wedi cael eu lladd, neu eu clwyfo, neu eu carcharu, yn y rhyfel ofnadwy hwn, ni cheir nemawr neb, hyd yn nod yn Nghymru heddychlawn, yn edifarhau ddarfod i Brydain sefyll i fyny dros hawliau dynoliaeth a gwareiddiad yn erbyn gallu mwyaf gormesol a llygredig yr oesoedd. Ac nid yn unig yn Mhrydain, ond yn ei holl diriogaethau tu draw i'r mor, yn Canada, De Affrica, India, Awstralia, New Zealand, yn mhob man lle ceid deiliaid Prydain, ceid cyffelyb ysbryd, cyffelyb barodrwydd i anturio ac i aberthu pob peth er mwyn amddiffyn cam y gwan, cadw yn fyw genedloedd bychain Ewrop, a dyogelu hawliau dynoliaeth ac anrhydedd gwareiddiad y byd.

Ac o holl adranau teyrnas ac ymerodraeth eang