rymedig yn gryf ato erioed. Gwelodd yr ormes a chlywodd y cri hwnw pan yn blentyn; cyferchir ef heddyw ganddynt. Gwelodd ffermwyr Cymru yn cael eu troi allan o'u tiroedd yn 1868 am ddarfod iddynt bleidleisio yn ol eu cydwybod ond yn groes i ddymuniad eu meistri tir; cymellodd hyny ef yn foreu i gynyrfu am ddiwygio Deddfau'r Tir yn Nghymru. Gwaith Germani yn treisio Belgium yn 1914 a'i trawsffurfiodd i fod yn un o gefnogwyr mwyaf brwd y Rhyfel yn Ewrop, fel y gwnaeth goresgyniad y Transvaal gan Brydain ef yn Apostol Heddwch yn 1900. Cri y milwr Prydeinig yn y ffosydd yn Ffrainc sydd heddyw wedi ei wneyd yn Weinidog Cyfarpar Rhyfel, yn creu magnelau anferth a phylor nerthol megys a gair ei enau.
Ymdrinir yn llawnach a'r dadblygiadau hyn, ac eraill, yn mhellach yn mlaen; ond dylid dweyd yn y fan yma y rhaid meddu adnabyddiaeth bersonol agos iawn a Mr. Lloyd George i sylweddoli beth yw'r dyn mewn gwirionedd. Canys pell iawn yw efe o fod yr hyn y'i darlunir ef gan gyfaill a chan elyn yn y wasg. Er engraifft, nid y gwr anwladgar y mynai'r 'mob' wallgof yn Birmingham ei labyddio bymtheng mlynedd. yn ol, yw; nac ychwaith y nef-anedig fab i Thor y mynai'r un bobl heddyw ei addoli. Nid y bradwr i Brydain a gondemnid gynt gan Arglwydd Curzon ac Arglwydd Derby mo hono, nac ychwaith waredwr yr Ymerodraeth fel y portreant ac y bendithiant ef heddyw. Nid yr afradlon dibwyll a fynai gamblo ymaith gredyd ei wlad fel y darlunid ef gan y sawl a gashaent