Tudalen:Rhamant Bywyd Lloyd George.djvu/227

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

estyn rhoddion hael Cymry America i'w gydwladwyr angenus.

I'r angenus gartref y bwriadwyd y drysorfa hon. Ond mae trysorfa arall i estyn cysuron i Fechgyn Cymru yn y Rhyfel. Araeth o eiddo Lloyd George yn Llundain fisoedd yn ol a roddodd gychwyniad i'r drysorfa hon. Mae amryw danysgrifiadau ati wedi dod oddiwrth Gymry America. Cyfanswm derbyniadau hon hyd ddechreu Rhagfyr, 1915, oedd 23,000p. O'r cyfanswm hwn mae 13,000p. wedi cael eu derbyn mewn arian, a gwerth 10,000p. arall mewn nwyddau o bob math yn rhoddion i'r milwyr Cymreig. Oni bae am y Rhyfel yn Ewrop mae yn dra thebyg y buasai Mr. Lloyd George wedi talu ymweliad a'r Unol Dalaethau y flwyddyn hon. Arfaethai ddod i'r Eisteddfod Gyd-Genedlaethol yn Pittsburg dair blynedd yn ol. Rhoddodd addewid amodol i'r Ddirprwyaeth oddiwrth Gymry America ymwelodd ag ef yn Downing Street. Cyflwynwyd y Ddirprwyaeth iddo gan y Cymro gwladgarol y diweddar Henadur Edward Thomas (Cochfarf) cyn-faer Caerdydd, yr hwn yntau oedd wedi bod ar ymweliad a'r Unol Dalaethau. Rhwystrau anorfod yn nglyn a'i waith fel Gweinidog y Goron, sy'n cyfrif iddo siomi dysgwyliadau ei gydwladwyr yn America. Nid oedd yr addewid mor bendant am ymweled ag Eisteddfod San Francisco yn 1915, ond y Rhyfel yn Ewrop a siomodd ei obeithion ef am ddod yno. Dichon, wedi yr elo storm y Rhyfel heibio, y daw cyfle eto i Gymro enwocaf ei oes dalu ymweliad a'r bobl y mae iddynt le mor gynes yn ei galon—Cymry'r America.