ei ffawd. Ni ameuodd neb erioed mo'i wroldeb beiddgar. Cymerer ychydig o'r engreifftiau mwyaf adnabyddus. Yr un oedd y gwroldeb a wynebai'r mob sychedai am ei waed yn Birmingham, ag a gymellodd y bachgenyn yn yr ysgol yn Llanystumdwy i arwain gwrthryfel yn erbyn trindod awdurdod y plwyf—yr ysgolfeistr, yr offeiriad, a'r sgweier. Pan yn dechreu ei yrfa fel cyfreithiwr heriodd y fainc yn Mhwllheli, tra yn Nghaernarfon gorfodwyd cadeirydd yr Ynadon, gair yr hwn a arferai fod yn ddeddf, i ymneillduo o'r llys. Pan aeth gyntaf i'r Senedd, ni foddlonai ar ddim llai na herio mewn dadl brif areithwyr Ty y Cyffredin, Mr. Balfour a Mr. Chamberlain. Ond yn mhob brwydr o'r fath gwasgai i'r amlwg ryw egwyddor fawr. Ac yn mhellach "talai" yr oll yn dda iddo. Gwnaeth y gwrthryfel yn yr ysgol ef yn arweinydd y pentref, ac wedi hyny yn anhebgorol i'r mudiad drwy yr hwn yr enillodd Ymneillduwyr y fro eu hannibyniaeth. Drwy orchfygu cadeirydd yr Ynadon yn y llys, daeth i'w law fusnes eangach fel cyfreithiwr; ac yn fuan wed'yn mewn canlyniad i'r poblogeiddrwydd a enillodd. felly, cafodd ei ddewis fel ymgeisydd Rhyddfrydol Bwrdeisdrefi Arfon. Drwy ymladd gornest a Balfour a Chamberlain yn Nhy'r Cyffredin gwnaeth iddo ei hun enw fel dadleuydd yn y Senedd a ddylanwadodd ar holl gwrs ei fywyd, ac mae i'r gwroldeb hwn nodwedd arbenig y Celt mewn rhyfel, sef ei fod yn fwy dysglaer pan yn ymosod na phan bo'n amddiffyn. Gwelir hyn yn amlwg yn hanes cyhoeddus Lloyd George. Pan ymosodir arno, yn lle sefyll ar yr amddiffynol, ymesyd
Tudalen:Rhamant Bywyd Lloyd George.djvu/23
Gwirwyd y dudalen hon