Tudalen:Rhamant Bywyd Lloyd George.djvu/231

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Yr ymdeimlad hwn o genedlaetholdeb ysbrydolodd ei araeth fawr o blaid "Hawl y Cenedloedd Bychain" a draddodwyd ganddo yn Neuadd y Frenines yn Llundain, Medi, 1914. Cyfieithwyd a chyhoeddwyd yr araeth yn mron bob tafodiaith wareiddiedig yn byd. Ceir argraffiadau o honi yn Saesneg, Cymraeg, Bwlgaraeg, Danaeg, Is-Ellmynaeg, Ffrancaeg, Germanaeg, Groeg, Eidalaeg, Portugeaeg, Rwmanaeg. Rwsiaeg, Serbiaeg, Ysbaenaeg, a'r Swedaeg. A wnaed hyn ag unrhyw anerchiad cyhoeddus erioed o'r blaen, ag eithrio rhai o'r hen glasuron Groegaidd? Rhaid boddloni ar un dyfyniad byr yn unig:

"Mawr yw dyled y byd i'r cenedloedd bychain. Celf fwyaf cain y byd, gwaith cenedloedd bychain yw. Llenyddiaeth anfarwol y byd, cenedloedd bychain a'i cynyrchodd. Cynyrchodd Lloegr ei llenyddiaeth aruchelaf pan nad oedd ond cenedl fechan fel Belgium, ac yn ymladd yn erbyn Ymerodraeth fawr. Y gorchestion arwrol sy'n gwefreiddio dynoliaeth-y cenedloedd bychain a'u gwnaethant pan yn ymladd dros ryddid. Ie, a thrwy genedl fach y daeth iachawdwriaeth dynolryw. Dewisodd Duw genedloedd bychain yn gostrelau i gludo ei win mwyaf dewisol at wefusau plant dynion i lawenychu eu calon, i ddyrchafu eu golygon, it symbylu a nerthu eu ffydd. A phe y safasem o'r neilldu pan y gwesgid ac y malurid y ddwy genedl fach (Belgium. a Serbia) gan ddwylaw bwystfilaidd Anwariaeth, adseiniai y son am ein cywilydd yn oesoesoedd!"

Agos gysylltiedig a'i Genedlaetholdeb ac yn seiliedig ar yr un egwyddor sylfaenol, ceir ei Annghydffurfiaeth. Sugnodd ei serch at y ddau o fron ei fam. Y bachgen a dyfodd ac a gynyddodd ar y bwyd caled a ddeuai i ran Ymneillduwyr ei febyd, yn blentyn ac yn llanc