ag yr oedd hwnw yn ateb ei bwrpas ef, ac yna trodd i'w ddarnio. Daeth pob un o'r ddau i amlygrwydd buan yn y Senedd, aeth o fainc yr Aelod Cyffredin ar ei union i gadair Gweinidog yn y Cabinet; yr un swydd gafodd y ddau ar y dechreu; priodolir i'r ddau fel eu gilydd y pechod o ddymchwelyd y Weinyddiaeth y perthynai iddi; daeth y naill fel y llall yn aelod o Gabinet Ddwyblaid, yr hon na ddeuai byth i fod oni bae am ei gymorth ef, a byddai bywyd y Cabinet hwnw ar ben pe troai efe i'w erbyn.
A ellir cario'r gyffelybiaeth yn mhellach? Gorfu i bob un o'r ddau nid yn unig gladdu'r fwyell, ond gosod ei law yn yr un ddysgl a'i hen elynion. Gorfu i bob un o'r ddau, er mwyn heddwch yn y Cyd-Gabinet, lyncu os nad gwadu rhai o'i hen egwyddorion. Cydsyniodd Mr. Chamberlain i basio Deddf Addysg a droseddai yr egwyddorion sylfaenol a'i dygodd gyntaf i anrhydedd. Nid yn unig cydsyniodd, ond cymerodd Lloyd George y cyfrifoldeb am Ddeddf oedd yn arosod gorfodaeth ar ddosbarth dros ryddid y rhai yr ymladdasai erioed. Bu ei ymgais cyntaf i osod y ddeddf hono mewn grym yn fethiant truenus. Chwarddodd Glowyr Deheudir Cymru Fesur Gorfodaeth Lloyd George allan o fodolaeth. Adferodd yntau heddwch yn eu plith drwy ganiatau iddynt eu holl ofynion. Cydnabyddasant hwythau hyny drwy orymdeithio heolydd Caerdydd gan ganu un o'i ganeuon etholiadol: "Lloyd George ydy'r gora', y gora', y gora!" Er condemnio o hono orfodaeth filwrol erioed, cyfrifir ef yn mhlith yr aelodau hyny o'r Cabinet a fynent gael Gorfodaeth