yntau yn chwyrn ar yr ymosodwr. Drwy hyn llwyddodd dro ar ol tro yn y Senedd i enill buddugoliaeth lle y bygythid ei orchfygu-heblaw ei fod drwy ymosod yn gorchuddio'r man gwan at yr hwn yr anelodd y gelyn. Nid oes angen profi grym a dylanwad ei hyawdledd; gwyr y byd yn dda am hwnw. Ar yr un pryd dylid cofio mai nid yn ei hyawdledd ysgubol ar y llwyfan yn unig y gorwedd prif gudd-der ei nerth. Yn ystafell y pwyllgor a'r gynadledd ceir fod ei dafod arian pan yn cynorthwyo ei feddwl ystwyth a'i synwyr cyflym, yn fwy i'w ofni na'i areithyddiaeth. I'r gallu sydd ganddo i ddarbwyllo mewn ymgom breifat, yn fwy nag i'w areithyddiaeth ar y llwyfan neu hyd yn nod ei allu fel dadleuydd ar lawr Ty'r Cyffredin, y mae yn ddyledus. am ei safle bresenol a dyfodol, yn y Weinyddiaeth Ddwyblaid yn Mhrydain.
Ni cheir neb yn mhlith dynion cyhoeddus ei wlad yn fwy dyledus i'r wasg nag yw Mr. Lloyd George, na neb a wyr yn well nag ef pa fodd oreu i'w defnyddio at ei bwrpas ei hun. Nid am ei fod ei hun yn ysgrifenwr medrus. Ei dafod yn hytrach na'r ysgrifbin yw ei hoff arf. Gwir ddarfod iddo ar ddechreu ei yrfa ysgrifenu llawer i'r wasg leol, a nodweddid ei "Lythyrau o'r Senedd" i'r "Genedl Gymreig" gan gryn graffder a bywiogrwydd. Ond mae ysgrifenu iddo ef, fel yr oedd cardota i'r goruchwyliwr annghyfiawn yn y ddameg, bob amser yn atgas. O'r dydd yr aeth gyntaf i'r Senedd hyd o leiaf nes y daeth yn ddigon arianog i gadw ysgrifenydd preifat i ofalu am ei ohebiaeth, ceid ei gloer yn Nhy'r Cyffredin bob amser yn llawn o lyth-