Tudalen:Rhamant Bywyd Lloyd George.djvu/242

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ynddi. Amcan y Mesur dan sylw oedd gosod y cyf- oethog a'r tlawd ar yr un tir, a buasai Mesur y Cabinet i estyn oes y Senedd yn sicrhau hyny. Ond cododd gwrthwynebiad yn mhlith y Toriaid, am y rheswm syml y buasai estyn oes y Senedd yn ddiamodol yn sicrhau pasio Mesur yr Aml Bleidlais ar waethaf yr Arglwyddi. Gohiriwyd Mesur y Cabinet felly am rai wythnosau.

Pan adferir heddwch yn Ewrop rhaid fydd talu sylw i rai o'r cwestiynau cartrefol dyrys hyn. Daw'r Aml Bleidlais, Ad-drefnu'r Etholiadau, Pleidlais y Merched, ac hyd yn nod Ymreolaeth i'r Werddon, yn mhlith eraill, i waeddi yn groch am sylw. O bosibl y gellir cytuno ar rai o honynt, er fod y gwrthwynebiad a nod- wyd i Fesur yr Aml Bleidlais yn gwneyd hyny yn ameus. Sicr yw Sicr yw y bydd y ffaith fod, er engraifft, Lloyd George a Balfour wedi cydeistedd wrth yr un bwrdd yn yr un Cabinet am gymaint o amser, yn rhwym o gyfnewid i raddau helaeth safbwynt y naill a'r llall o edrych ar bethau. Lleiheir y pellder rhyng- ddynt. Daw pob un o'r ddau yn nes i'r llall. Bydd gan Balfour lai o wrthwynebiad i rai syniadau Rhyddfryd- ol, a bydd Lloyd George yn llai milain yn ei ymosodiad ar fuddianau cyfoeth, megys yn ei ymdrech i Ddiwygio Deddfau'r Tir, er engraifft.

Gesyd hyn oll Mr. Lloyd George mewn sefyllfa anhawdd iawn yn nglyn a chwestiynau cartrefol ar ddiwedd y Rhyfel. Cymerer y cwestiwn o sicrhau cyllid i dalu treuliau y Rhyfel er engraifft. Pa Blaid bynag fyddo mewn awdurdod, rhaid fydd gwynebu y cwes-