Tudalen:Rhamant Bywyd Lloyd George.djvu/246

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Mae meddwl Prydain a'r Trefedigaethau heddyw yn aeddfedu ar y cwestiwn o gael Cabinet Ymerodrol yn ngwir ystyr y gair; Cabinet yn yr hwn y ca y Trefedigaethau lais fel eiddo Prydain ei hun. Golyga hyny addrefnu yr holl Gyfansoddiad Prydeinig—cyfnewidiad aruthrol fawr. Ond er mor fawr yw, cynwysir ef yn rhwydd yn rhagolwg Mr. Lloyd George yn yr araeth y cyfeiriwyd ati eisoes.

Dyna'r peth a rydd derfyn bythol ar gweryl Ymreolaeth. Daw yr holl ymerodraeth i mewn i'r cwestiwn. Ca Lloegr, yr Alban, y Werddon, a Chymru, bob un lywodraethu ei materion cartrefol ei hun heb ymyriad neb o'r tu allan iddi—fel y gwna y Trefedigaethau mawrion eisoes, ac fel y gwna pob talaeth yn yr Unol Dalaethau. Yna, uwch ben yr oll, yn arolygu yr oll, yn penderfynu polisi cyffredinol yr oll mewn pethau a berthyn i'r oll, bydd Senedd Brydeinig a Chabinet Ymerodrol, fel y mae y Gydgyngorfa a'r Senedd yn Washington yn rheoli pethau a berthyn i holl Dalaethau'r Weriniaeth gyda'u gilydd.

Ac yn y Senedd a'r Cabinet Ymerodrol hyny y mae, o bosibl, lle, a swydd, a gwaith dyfodol Lloyd George. Bu yn arweinydd Cenedlaetholwyr Cymru; tyfodd yn rhy fawr i fod yn eiddo Cymru yn unig. Daeth yn wladweinydd Prydeinig, ac mae wedi dringo mor uchel fel nad oes ond un sedd uwch yn ei aros yn Senedd Prydain. Dangoswyd eisoes yr anhawsderau a'i gwynebai ef yn y cyfryw swydd. Ond ni wynebai'r anhawsderau hyny ef yn y Senedd a'r Cabinet Ymeodrol. Yno caffai le a gwaith a gydgordient a'i dymer-