Tudalen:Rhamant Bywyd Lloyd George.djvu/247

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

edd; ni byddai raid iddo yno aberthu yr un argyhoeddiad na gwadu yr un egwyddor a ddelid ganddo gynt; ni byddai raid iddo ymwrthod ag unrhyw bolisi a gymellid ganddo yn y gorphenol. I'r gwrthwyneb agorid o'i flaen faes newydd ac eang lle y caffai chwareu teg i weithredu pob talent fel gwladweinydd doeth, beiddgar, gwerinol. Yn ngoleuni y cyfryw bosibilrwydd gellir darllen ystyr newydd i'r hyn a ddywedodd efe yn niweddglo ei araeth fawr yn Neuadd y Frenines ar y Cenedloedd Bychain y dyfynwyd o honi eisoes. Gan gyfeirio at y Genedl Brydeinig yn ystyr eang y gair fel ag i gynwys yr "Ymerodraeth" yn hytrach na'r "Deyrnas," dywedodd:

"Enilla'r bobl drwy'r gwledydd oll fwy yn yr ymdrechfa hon nag y maent hwy eu hunain yn ddirnad. Gwir y rhyddheir hwynt o afael yr hyn a fu gynt y perygl mwyaf i'w rhyddid. Ond nid dyna'r cwbl. Mae rhywbeth anrhaethol fwy, a mwy parhaol, eisoes yn esgyn o'r ymryson mawr hwn, sef gwladgarwch newydd, cyfoethocach, godidocach, a mwy dyrchafedig na'r hen. Gwelaf, yn mhlith pob dosbarth, uchel ac isel, y bobl yn ymddiosg o'u hunanoldeb, a chydnabyddiaeth newydd nad ar gadw ei chlod ar faes y gad yn unig yr ymddibyna anrhydedd gwlad, ond hefyd ar ei gwaith yn noddi ei chartrefi rhag cyfyngder. Dygir felly weledigaeth newydd i bob dosbarth. Mae'r llifeiriant mawr o foeth a diogi oedd wedi gorlifo'r tir yn cilio, a gwelir Prydain newydd yn codi ei phen. Gwelwn eisoes, ac am y tro cyntaf, y pethau sylfaenol sydd o bwys mewn bywyd, ac a guddiwyd o'n golwg gan dwf bras llwyddiant, yn ymwthio i'r wyneb.

"Buom yn llawer rhy esmwyth ein byd, yn rhy foethus, a llawer o honom yn rhy hunangar; ond wele law drom tynged yn ein ffrewyllu i uchelder o'r lle y gwelwn y pethau ydynt o dragwyddol bwys i genedl-Anrhydedd, Dyledswydd, Gwladgarwch, ac, mewn gwisg ddysglaerwen oleu, binacl uchel Aberth yn dyrchafu fel bys mawr yn cyfeirio tua'r Nef. Disgynwn eto, o bosibl, i'r dyffrynoedd; ond tra bo byw meibion a merched y genedlaeth hon, cadwant yn fyw yn eu calonau ddelw banau'r mynyddoedd mawr, sylfaeni y rhai ni syflir byth, er siglo a chrynu holl gyfandir Ewrop gan ryferthwy'r Rhyfel mawr!"