yrau yr oll heb eu hateb, a llu o honynt heb erioed eu hagor! Arferai ddweyd y pryd hwnw fod llythyr a droid o'r neilldu, fel rheol, yn ateb ei hun o fewn y pythefnos. Yr unig ffordd i gael ateb oddiwrth Lloyd. George yn y dyddiau cyn ei ddyrchafu i'r Cabinet, oedd i chwi amgau yn eich llythyr ato ddau bost-card, ac ysgrifenu "Ie" ar un a "Nage" ar y llall-neu gyfystyron y geiriau hyn fel y byddai'r angen. Os byddech wedi stampio'r ddau, ac ysgrifenu eich cyfeiriad eich hun arnynt, o bosibl y dychwelai un o'r ddau i chwi. Ond, fel y dywedir yn gywir genyf yn "Dafydd Dafis," nid oedd hyn bob amser yn beth y gellid ymddibynu arno, canys weithiau postiai'r ddau lythyr-gerdyn, un yn dweyd "Ie" a'r llall "Nage," ar yr un pryd. Ond er mor atgas ganddo ysgrifenu llythyr, yr oedd o leiaf ddau eithriad i'r rheol o esgeuluso. Treuliais lawer o amser yn ei gwmni yn teithio Cymru o Gaergybi i Gaerdydd, gan gyd-letya ag ef ar ein teithiau; a chan nad pa mor hwyr y nos a pha mor lluddedig bynag y byddai, nid elai byth i'w wely heb ysgrifenu llythyr at ei wraig, nac heb ateb llythyr a gawsai oddiwrth ei ewythr, Richard Lloyd, am yr hwn y sonir yn helaethach yn y benod nesaf. Er ei holl bechodau gohebiaethol, rhaid cyfrif y ddau eithriad uchod yn gyfiawnder iddo.
Ni ysgrifenodd lawer ei hun erioed i'r wasg Seisnig, ac ni chyfranodd nemawr gwerth son am dano at lenyddiaeth ei oes. O bosibl mai yr ysgrif bwysicaf a geir yn dwyn ei enw fel awdwr, yw un a ymddangosodd tuag ugain mlynedd yn ol mewn cylchgrawn