fedrant amgylchu eu hunain ag awyrgylch ffydd a gobaith, a naws dewrder a chymwynasgarwch, gan feddu ysbrydoliaeth a gymellai i ddaioni bawb a ddeuent i'w chyfrinach agos. Dyma ddarluniad o honi gan gyfaill mynwesol iddi hi a'i phriod:—
"Mor siriol, mor loew, mor beraroglus oedd ei chymeriad, heb fyth gwmwl ar ei gwedd, ond bob amser yn rhadlon rasusol! Yr oedd yn meddu hefyd y math hwnw o goethder, yr hwn gyda gras Duw mor amlwg yn ei chalon, a'i gwisgai megys a rhod santaidd i'w hamgylchu, gan ddylanwadu ar bawb a fwynhaent y fraint o'i chyfeillach. Nefoedd yn wir oedd byw yn ei chwmni."
Collodd ei phriod yn sydyn, ar ol wythnos fer o selni, gan adael i'w gofal ddau blentyn amddifad, a thrydydd plentyn, William, a aned yn mhen ychydig amser wedi claddu'r tad. Dychwelodd hithau a'i phlant amddifaid. i'w hen gartref yn mhentref tawel Llanystumdwy. Profwyd nerth ei chymeriad yn llym yn nhymor hir ei gweddwdod, ond daeth drwy'r prawf megys aur wedi ei buro drwy dan. Ac eto mor dawel a diymhongar, mor wylaidd a hunanymwadol ydoedd yn ei holl weithredoedd, fel nad oes ond ychydig o'i chyfeillion agosaf a wyr hyd y dydd heddyw am yr ysbryd dewr a arddangoswyd gan y fam Gristionogol goeth hon wrth ddwyn ei phlant amddifaid i fyny ar hyd llwybrau cyfiawnder ac yn ofn yr Arglwydd.
Nid yw stori boreu oes Lloyd George erioed wedi cael ei hadrodd, ac nis gellir yma ond awgrymu y darlun. Pan ddelo'r amser i hyny, ac y gellir adrodd y stori yn rhydd ac yn llawn, ceir engraifft arall o wiredd y gair mai "y llaw sy'n siglo'r cryd sydd hefyd yn llywio'r byd."