Llanwyd lle y tad, William George, gan Richard Lloyd, ewythr Lloyd George, brawd ei fam. Gydag ef y cartrefodd y weddw a'i thri phlentyn amddifad, a gyda hwynt y rhanodd yntau ei holl dda. Ni bu ramant prydferthach erioed na rhamant hunan—aberth Richard Lloyd ar ran ei chwaer a'i phlant bach. Er mai dim ond crydd y pentref ydoedd, eto yr oedd yn un o'r eneidiau ysbrydoledig hyny geir weithiau yn llunio ffawd cenedl gyfan. Gweiniai Richard Lloyd i angenion ysbrydol "Eglwys y Dysgyblion," sect fechan o Fedyddwyr, yn y pentref. Gwelir dylanwad bendithiol y gwr Duw hwn ar holl fywyd Lloyd George o'i febyd hyd o leiaf y dydd yr aeth i Gabinet Prydain Fawr. Cydgasglwyd megys yn Richard Lloyd holl ragoriaethau llinach hir o wladwyr Cymreig. Nerth corfforol, yni meddyliol, cywirdeb moesol, gwelediad ysbrydol, ymwybyddiaeth feunyddiol o bresenoldeb a dylanwadau y byd anweledig a'r pethau hyn oll yn bur, ac heb erioed eu hanmharu gan ruthr a gwanc y byd am safle a chyfoeth. Yn y pethau hyn preswyliai Richard Lloyd ar wastadlawr uwch na'r byd o'i amgylch. Ni fedr neb sylweddoli yn llawn gymaint a olygai cyfathrach agos a beunyddiol a gwr mor dda i'r plentyn. pan yn tyfu yn ddyn. Dyma ddywed Mr. Lloyd George ei hun am lwyr ymgyflwyniad ei ewythr i'r teulu bach:—
"Ni phriododd fy ewythr erioed. Ymgymerodd a magu, a meithrin, ac addysgu plant ei chwaer fel dyledswydd santaidd oruchaf. I gyflawni y ddyledswydd hono yr ymgyflwynodd ei fywyd, ei amser, ei nerth, a'i eiddo oll."