dau wrthryfel, gan lwyddo o hono drwyddynt i ddileu prawflwon enwadol yn ysgol y pentref.
Mae'r ddau ddygwyddiad yn nodweddiadol o'i gymeriad, ac yn hanesyddol bwysig, ac felly yn haeddu cael eu gosod yma ar gof a chadw. Am un o'r ddau ddygwyddiad cefais yr hanes yn bersonol gan un o'i ganlynwyr yn y gwrthryfel, canys anhawdd yw cael gan Mr. Lloyd George ei hun i adrodd helyntion ei fachgendod gwyllt. Mae y ffeithiau a nodir isod yn rhai na chyhoeddwyd erioed o'r blaen mo honynt.
Arferid yn y dyddiau gynt gymeryd holl blant yr ysgol yn orymdaith ddefosiynol i'r Eglwys ar Ddydd Mercher y Lludw. Teimlai David Lloyd George nad gweddus i ddeiliaid y capeli, er mai plant oeddent, fyned felly i blygu glin yn nhy Ramon Esgobyddiaeth. Trefnodd gyda nifer o fechgyn yn ei ddosbarth i ffoi o'r orymdaith pan yn agoshau at yr Eglwys. Ymgymerodd ef a rhoi'r arwydd ei hun. Felly, pan yn troi congl ar y ffordd i'r Eglwys, cododd waedd sydyn: "Rwan, lads!" a ffwrdd ag ef fel ewig tua'r goedwig gyfagos. Dylynwyd ef gan ei gydwrthryfelwyr. Taflwyd yr orymdaith i annhrefn. Ceisiodd rhai o'r athrawon redeg ar ol y bechgyn i'w cael yn ol. Ond yr oedd Dafydd bach wedi dewis ei le a'i adeg yn rhy dda. Yn y goedwig yr oeddent yn ddyogel. Felly, tra yr aeth gweddill bach yr orymdaith yn mlaen i'r Eglwys, treuliodd y gwrthryfelwyr bychain foreu braf yn y goedwig.
Eto, daeth arnynt yn nghanol eu mwynhad yr hyn a ddywedai'r offeiriad oedd yn farn Duw arnynt am eu