drothwy yr ysgol ddyddiol. Yr oedd ysgol y Wladwriaeth, ac Eglwys y Wladwriaeth, a swyddogaeth y Wladwriaeth, un ac oll, yn ddim amgen na chyfryngau i Seisnigeiddio Cymru. Ni fynai i'r naill na'r llall gydnabod gwahanfodaeth cenedlaethol Cymru. Mewn aml i ysgol ddyddiol, hyd yn nod yn y parthau mwyaf Cymreig, cosbid pob plentyn a feiddiai ddweyd gair of Gymraeg o fewn oriau yr ysgol.
Lle ail raddol a roddid i'r iaith Gymraeg; edrychid ar siarad Cymraeg fel nod o israddoldeb cymdeithasol. Ceid yr offeiriaid yn y plwyfi tlotaf, efallai, fel eu brodyr y gweinidogion Ymneillduol, yn pregethu yn Gymraeg; ond Saeson oedd uchelwyr yr Eglwys, a Saesneg oedd y gwasanaeth yn mhob Eglwys Gadeiriol yn Nghymru. Cymraeg a siaredid gan yr hwn oedd yn trin y tir; ond Saesneg gan y meistr tir a'i oruchwyliwr. Estynai yr un gwahaniaeth—fel ag a wnaethai gynt yn Lloegr ar ol y goresgyniad Normanaidd- i lawr i'r byd anifeilaidd. Canys tra yn Gymraeg y gorchymynid y ci defaid, yr hwn a gynorthwyai y ffermwr i dalu ei rent, ni ddeallai y cwn hela ar y rhai y gwariai y meistr tir y rhent hwnw ddim ond Saesneg. Os clywid Cymraeg weithiau yn y plas, yn y gegin y'i clywid, a byth yn yr ystafell ginio neu'r drawing room; gallai'r forwyn fach yn y gegin o bosibl siarad Cymraeg, ond nid oedd yn cydfyned ag urddas y pentrulliad i wneuthur hyny. Tarawodd Esgob Llanelwy yr hoel ar ei phen pan ddywedodd mai "Iaith y bara haidd yw'r Gymraeg; Saesneg yw iaith y bara gwyn."