Dyna amgylchfyd ieithyddol Lloyd George pan yn fachgen. Ond, fel y gwrthryfelodd y Saeson ganrifoedd yn ol yn erbyn iau iaith y Norman yn eu gwlad, ac y mynasant gael Saesneg yn lle'r Ffrancaeg i'r Llys, i'r Eglwys, ac i'r Ysgol, felly y dechreuodd yr ysbryd. Cymreig gynyrfu yn nghalon y llanc Lloyd George. Chwareuodd ef a'i frawd ran flaenllaw yn y mudiad i sicrhau hawl y Cymro i roi tystiolaeth yn Gymraeg yn y llys gwladol. Pan ddaeth fy nghefnder, y diweddar Barch, Daniel Thomas, M. A., Wymore, Neb., ar daith i Gymru rai blynyddoedd yn ol, aethym ag ef i weled Llys Barn yn Nghymru. Tarawyd ef a syndod i weled y tystion a'r cyfreithwyr, a'r swyddogion, a'r Ynadon ar y fainc, oll yn cario'r holl weithrediadau yn mlaen yn Gymraeg. Lloyd George oedd un o'r rhai cyntaf i fynu yr hawl hwnw yn y llysoedd. Erbyn heddyw mae yn beth digon cyffredin. Yn nghyfarfod cyntaf y Cyngor Sir, i'r hwn yr etholwyd ef yn henadur, pasiwyd yn unfrydol fod rhyddid i'r neb a fynai ddefnyddio'r Gymraeg yn holl weithrediadau'r cyngor. Cymraeg yw iaith swyddogol Pwyllgor Yswiriant y Sir o dan ddeddf Lloyd George. Hawlia Undeb y Cymdeithasau Cymreig heddyw gael y Gymraeg yn iaith swyddogol pob awdurdod cyhoeddus yn Nghymru. Ni ellir heddyw benodi nac Esgob, na Barnwr Llys Sir, nac Arolygwr Ysgolion, yn Nghymru os na bydd yn medru Cymraeg.
Pan unwyd Cymru a Lloegr gan Harri'r Seithfed, dechreuwyd creu gagendor rhwng y palas a'r bwthyn, rhwng perchen y tir a'r neb a'i llafuriai. Erbyn geni