Lloyd George yr oedd y gagendor hwnw wedi myned yn fawr. Yr oedd bonedd Cymru, disgynyddion yr hen Dywysogion Cymreig, wedi myned yn Saeson yn mhob peth ond yn ffynonell eu cyfoeth. Yr oedd eu hiaith, a'u harferion, a'u syniadau, oll yn Seisnig, tra'r arosai eu deiliaid a gwerin eu gwlad mor Gymreig ag a fu eu tadau erioed. Daeth Deddfau Helwriaeth i'w rhanu yn mhellach. Gwnaed y drwg yn waeth drwy i Ddeddf y Cytiroedd gau oddiwrth y werin, y mynydddir a'r comin a arferent gynt fod yn agored iddynt. Yn erbyn hyn oll llosgai enaid Lloyd George, wedi dysgu o hono gan Michael Jones y Bala.
Maethid ysbryd gwrthryfel yn ei fynwes hefyd gan yr Adfywiad Cenedlaethol hynotaf a welwyd erioed yn hanes Cymru—Diwygiad mewn Crefydd, adfywiad mewn Dysg, deffroad mewn Gwleidyddiaeth, a'r tri yn mron yn gydamserol.
Pan sefydlodd Lloyd George gyntaf yn Nghymru yr oedd y werin yn dechreu adfeddianu ei hun ar ol Diwygiad Mawr 1859. Yr oedd gallu pwlpud Cymru y pryd hwnw yn ei fan goreu. Er mor enwog yw Cymru, ac a fu erioed, am ser dysglaer ei phwlpud, ni welwyd y pwlpud erioed yn gymaint dylanwad ag ydoedd yn moreu oes Lloyd George. Erys dylanwad areithyddiaeth Pwlpud Cymru yn ei natur hyd y dydd. hwn. Cefnogwyd yr adfywiad mewn dysg ac yn llenyddiaeth Cymru gan yr Eisteddfod Genedlaethol, yr hon a dynai i'w gwasanaeth oreuon llen, barddoniaeth, cerddoriaeth, ac areithyddiaeth y genedl.
Er y geill ymddangos ar ryw olwg yn hynod, eto mae