gwladwr a'r gweithiwr; ac i'r dosbarth hwnw yr oedd y Saesneg yn iaith mor estronol ag yw Groeg a Lladin i'r glowr neu'r llafurwr Seisnig heddyw. Felly, tra yr oedd y Beirdd yn deffroi o'r newydd yn nghalonau gwerin Cymru ddyheadau cenedlaethol, ac yn rhoi mynegiant i hen ddyheadau traddodiadol y genedl mewn barddoniaeth swynol, seinber, yr oedd cewri Pwlpud Cymru hwythau yn cyffroi megys a sain udgorn yr hyn a elwir heddyw yn "gydwybod Ymneillduol," gan ddysgu dyledswydd dyn at ei gyd-ddyn yn ogystal a thuag at ei Dduw.
Deallodd Lloyd George hyn yn dda. Dyma ddywed efe am ei gydwladwr enwog, Hugh Price Hughes, ar yr hwn yr edrychai fel yn cynrychioli cewri pwlpud ei febyd yntau:
"Teimlai ddyddordeb byw yn y trueiniaid a sethrid dan draed cymdeithas. Gwyddai fod uffern yn dechreu ar y ddaear i filiynau o bobl. Rhoddai ei gefnogaeth alluog i bob mudiad at buro cymdeithas, at ysgubo ymaith o'r byd y tlodi, a'r budreddi, a'r pechod, a'r afiechydon. Addawodd Crist y caffai ei ganlynwyr y can cymaint yn y byd hwn, ac yn y byd a ddaw fywyd tragwyddol. Gwarth Protestaniaeth yw ei bod weithiau yn anwybyddu y rhan gyntaf o'r addewid wrth bregethu yr ail. Ceisiodd Hugh Price Hughes ei oreu i symud y gwarthrudd hwnw. Gwyddai ef fod y miliynau mud a dyoddefgar yn dysgwyl yn amyneddgar am weled y llogran (dividend) cyntaf yn cael ei ranu yn y byd hwn: ac, hyd nes y cant ef, prin y medrwch ddysgwyl iddynt gredu fod y llogran gohiriedig (deferred dividend) yn eu haros yn y byd a ddaw."
Ac wrth gyffroi y gydwybod Ymneillduol ceisiai pregethwyr mawr plentyndod Lloyd George sicrhau i'r werin eu llogran gyntaf yn ol addewid Crist, tra yn y cyfamser yn pregethu yn ffyddiog y deuai y llogran arall yn ei amser priodol.