Tudalen:Rhamant Bywyd Lloyd George.djvu/52

Gwirwyd y dudalen hon

ysbryd cenedlaethol yn ei fynwes, ac o'i gyfarwyddo pa fodd i'w ddefnyddio yn ymarferol er lles Cymru yn Nhy'r Cyffredin. Yn mhob etholiad ar ol hyny, cryfhau a wnaeth y galluoedd Cenedlaethol yn etholaethau Cymru, gan gyfnewid yn sicr a pharhaol holl wyneb cynrychiolaeth y werin yn y Senedd. Gellir dweyd mai yn 1886 y daeth y gallu newydd i'w etifeddiaeth, pan etholwyd Tom Ellis, yr Ymneillduwr Cenedlaethol pybyr, mab y pentref a'r bwthyn, yn Aelod Seneddol.

Ni chyfyngwyd y deffroad Ymneillduol yn 1868 i Ferthyr Tydfil, eithr lledodd fel tan gwyllt drwy'r holl Dywysogaeth. Yn mhob cyfeiriad torwyd i lawr yr hen argaeau, a thaflwyd ymaith am byth yr ymlyniad traddodiadol wrth y gyfundrefn wriogaethol o dan yr hon y cadwynid y gwladwr gynt. Enillwyd sedd ar ol sedd yn mhob rhan o'r Dywysogaeth gan Ymneillduaeth Ryddfrydol ddeffroedig. Gwrthryfel ydoedd, a gwrthryfel llwyddianus yn erbyn y drindod—yr offeiriad, y sgweier, a'r meistr tir, y rhai hyd y pryd hwnw a feddent yr holl awdurdod gwleidyddol, ac a feddianent yn llwyr gynrychiolaeth Cymru yn y Senedd. Ond costiodd y fuddugoliaeth yn ddrud i luoedd o ffermwyr bychain Cymru. Pleidlais agored oedd y bleidlais y pryd hwnw, ac felly gwyddai'r meistr tir a'i oruchwyliwr pwy a bleidleisiodd yn erbyn yr hen oruchwyliaeth. Yr oedd y cyfryw yn hollol wrth drugaredd y meistr tir, a'r canlyniad oedd dyoddefiadau yn mron annesgrifiadwy i ganoedd o deuluoedd. Trowyd y ffermwyr o'u tiroedd a'u tai, nid am na thalent y rhent, ond am ddarfod iddynt bleidleisio yn ol eu cydwybod ac yn