groes i ewyllys y meistr tir. Mewn llawer amgylchiad, lle yr oedd teulu wedi byw am genedlaethau ar yr un tyddyn, ac yn aml wedi helaethu'r tyddyn yn ddirfawr drwy arloesi tir gwyllt gerllaw iddo, taflwyd hwynt allan i'r heol yn ddidrugaredd. Taflwyd eu dodrefn allan ar eu hol. Gan nad oedd ganddynt le arall i roi pen i lawr, buont fyw—a marw—lawer o honynt mewn hen ystablau ac ysguboriau, neu mewn pebyll ar ymyl y ffordd. Daeth afiechyd ac angeu i'w canlyn yno. Ymfudodd llawer i'r Unol Dalaethau, a cheir eu plant a'u hwyrion yn mhlith derbynwyr cyson y "Drych," a gwyddant hwy mai gwir yw y dystiolaeth hon am ddyoddefiadau eu tadau—a'r llygaid hyn a welsant y dyoddefiadau hyny. Yr oedd yr holl ddygwyddiad yn ddychrynllyd yn ei faintioli, yn ei amlygiad o ormes didrugaredd, ac yn y dyoddef a'u canlynodd.
Yn mhlith adgofion cyntaf boreu oes Lloyd George yr oedd y golygfeydd arswydus hyn o erlid a dyoddef o herwydd cydwybod. Gwelodd hwynt, gwyddai am danynt, clywodd hwynt yn cael siarad am danynt yn feunyddiol yn ngweithdy ei ewythr. Fel y tyfodd mewn dyddiau tyfodd hefyd mewn gwybodaeth ac amgyffrediad o honynt. O angenrheidrwydd gadawsant argraff annileadwy ar ei feddwl ac ar ei gof. Lliwiasant ei holl welediad gwleidyddol. Gwelir cysgodion y dygwyddiadau alaethus hyny yn ei ymgyrch i ddiwygio Deddfau'r Tir, ac yn ei Gyllideb Fawr, yn ogystal ag yn ei areithiau gwleidyddol a goffheir yn y benod nesaf.