PENOD III.
Y CENEDLAETHOLWR.
RHAID oedd i ddysgybl Michael Jones o'r Bala ddadblygu yn Genedlaetholwr aiddgar —neu fel y galwai Michael ei hun y gair yn "Genhelwr."
Trwy gymorth ei ewythr, astudiaeth galed, a gallu meddyliol, aeth y llanc David Lloyd George yn llwyddianus drwy y gyfres arholiadau a safent fel rhes o byrth cauedig ar y ffordd sydd yn arwain i alwedigaeth cyfreithiwr yn Nghymru. Yn feddianol ar ddawn siarad naturiol, arferai er yn fachgenyn bach ddifyru, os nad adeiladu, ei gyfoedion drwy ddynwared rhai o'r pregethwyr a welodd ac a glywodd, gan adrodd yn rhigl ddarnau helaeth o'u pregethau—ac nid yn anaml yn asio darnau o'i eiddo ei hun wrthynt. Maethwyd, cryfhawyd, a blaenllymwyd y dawn hwn drwy ddefnyddio y cyfryngau a nodwyd eisoes.
Wedi ymsefydlu fel cyfreithiwr, nid hir y bu cyn enill enw fel dadleuwr medrus yn y llysoedd. Ychwanegid at ei glod gan y ffaith na chymerai ei ddychrynu na'i osod i lawr gan neb yn y llys. Dywedir am dano ei fod yn nyddiau cyntaf ei ymddangosiad yn y llysoedd, yn arddangos cyfuniad o ysbryd ymladdgar ceiliog 'bantam,' a gafael ddi-ollwng y targi