Amddiffynwyd hwynt gan Lloyd George. Collodd yr achos yn y Llys cyntaf, ond apeliodd at yr Uchel Lys lle y llwyddodd. Drwy hyn cyfreithlonodd ei wrthryfel yn erbyn awdurdodau nef a daear. Enillodd iddo ei hun enw drwy'r holl wlad fel cyfreithiwr oedd yn gwybod ei fusnes.
Cymellwyd ef gan ei gydymdeimlad a'r ffermwyr gorthrymedig i gymeryd rhan flaenllaw mewn sefydlu "Undeb Ffermwyr"—y cyntaf o'r fath yn y sir, yn 1886, pan nad oedd ond 23 mlwydd oed. O hyn y daeth Dirprwyaeth Tir i Gymru drwy law Mr. Gladstone yn mhen chwe mlynedd. Yn nglyn ag Undeb y Ffermwyr ffurfiwyd hefyd gangen o Gyngrair y Gwrth-Ddegymwyr. Amcan y Cyngrair hwn oedd dileu y Degwm a delid at gynal yr Eglwys Sefydledig. Ffurfiwyd cangen yn sir Gaernarfon, gyda Mr. Lloyd George yn ysgrifenydd. Yno y cyneuwyd tan a ledodd yn ffagl drwy Gymru benbaladr cyn pen blwyddyn. Prif arweinwyr y mudiad hwn oedd Thomas Gee, perchen a golygydd "Y Faner," a John Parry, amaethwr cyfrifol yn Llanarmon. Teg yw dweyd er holl areithyddiaeth danllyd Lloyd George pan yn anerch cyfarfodydd y ffermwyr, achubwyd sir Gaernarfon rhag y tywallt gwaed a nodweddodd y mudiad mewn siroedd eraill, yn enwedig siroedd Dinbych, Caerfyrddin, a Phenfro. Yr oeddwn ar y pryd yn Ohebydd Arbenig i bapyr dyddiol Seisnig dylanwadol, a dylynais Ryfel y Degwm a'i frwydrau drwy Gymru oll. Gwelais y brwydro a'r tywallt gwaed, ac nid yw ond teg i mi sicrhau y darllenydd