a'i areithiau ar ol myned yno, wedi cyffroi y genedl i'w gwaelodion. Gwisgai delfrydau cenedlaethol ffurf ymarferol ar bob llaw. Am y tro cyntaf erioed yr oedd polisi cenedlaethol clir yn cael ei osod o flaen y wlad. Sefydlwyd tri Choleg Cenedlaethol. Cydweithiodd addysgwyr blaenaf y Dywysogaeth i sefydlu Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, i'r hon y'm galwyd inau i fod yn Ysgrifenydd a Threfnydd. Hawliai hon ar i'r Iaith Gymraeg gael ei chydnabod, ei defnyddio, a'i dysgu, yn yr Ysgolion. Sicrhawyd hyny yn gyffredinol. Ffurfiwyd hefyd Undebau Ysgolion Sul Cymreig yn yr ardaloedd gweithfaol Seisnig. Cododd Cymdeithasau Cenedlaethol i fyny ar bob llaw. Lledodd y mudiad i feithrin yr iaith, dros y terfyn i Loegr, gan feddianu y trefi mawr yn Lloegr, megys Llundain, Manchester, Birmingham, Liverpool, ac eraill lle y ceid poblogaeth Gymreig gref.
I'r ddaear hon oedd eisoes wedi cael ei gwrteithio mor dda, y bwriodd Mr. Lloyd George had ei bolisi Cenedlaethol. Ei gynllun oedd meddianu y Cymdeithasau Rhyddfrydol Swyddogol, gan eu trawsffurfio i fod yn Gymdeithasau Cenedlaethol. Lle methai eu henill, yr oedd yn barod i'w malurio, ac i godi ar eu hadfeilion gyfundrefn o Gymdeithasau Cenedlaethol i lywodraethu pob etholiad Lleol a Seneddol drwy Gymru oll. Dyna oedd cyffrawd creadigol mudiad mawr Cymru Fydd. Cafwyd yr amlygiad cyhoeddus cyntaf o'r polisi Cenedlaethol hwn mewn anerchiad gan Lloyd George yn Nghaerdydd yn 1890. Dengys y dyfyniadau a ganlyn rediad ei ddadl:—