Mae chwarter canrif wedi pasio er pan glywais Lloyd George yn traddodi yr araeth yna; am naw mlynedd mae ef ei hun wedi bod yn aelod o Gabinet Prydain. Ond, cyn belled ag y mae rhoi deddfwriaeth arbenig i Gymru yn y cwestiwn, gallasai'r araeth, fel y'i thraddodwyd chwarter canrif yn ol, fod wedi ei thraddodi ddoe! Dengys y dyfyniadau uchod:—
1. Fod Lloyd George, hyd yn nod y pryd hwnw, cyn myned o hono erioed i'r Senedd, a'i olwg ar ddeddfwriaeth diwygiad cymdeithasol.
2. Nad yw'r mesurau mawr y cymerodd efe fel Gweinidog y Goron ran flaenllaw i'w pasio drwy'r Senedd—megys Dadgysylltiad, Diwygio Deddfau'r Tir, Dirwest—yn ei farn ef ond megys yn cyffwrdd ag ymylon y cynllun mawr o ddiwygio cymdeithas a dybiai ef y pryd hwnw y rhaid ei ddwyn oddi amgylch. 3. Ond, hyd yn nod felly gosodai Ymreolaeth i Gymru o flaen pob peth, am y tybiai mai trwy sicrhau Ymreolaeth i Gymru yn gyntaf y gellid yn oreu gael y diwygiadau cymdeithasol.
Eto, mor bell ag y mae a fyno cydnabod gwahanfodaeth cenedlaethol Cymru, yr unig ran o'r weledigaeth a gafodd bum mlynedd ar hugain yn ol a sylweddolwyd hyd yn hyn, ac y gellir dweyd y rhaid ei briodoli i'w symbyliad personol ef yw, y ceir yn yr Armagedon fawr i'r hon y cyrcha pobloedd Ewrop heddyw—er mai Armagedon wahanol iawn yw i'r un oedd ganddo yn ei feddwl y pryd hwnw—milwyr Cymru yn ymladd o dan luman y Ddraig Goch. Crewyd Bataliwn o Life