o'i araeth yn Nghaerdydd. Yr oedd yn barod, mae'n wir, i ganiatau Ymreolaeth i'r Werddon, ond nid ar ei phen ei hun, eithr fel rhan o gynllun cyfunol a roddai Ymreolaeth ar yr un pryd i Loegr, yr Alban, a Chymru. Heddyw (Rhagfyr, 1915) ymddengys yn dra thebyg na cha'r Werddon Ymreolaeth ond fel rhan o'r cynllun mwy oedd yn mryd Lloyd George chwarter canrif yn ol.
Mae yn deilwng o sylw fod mantell Lloyd George fel Proffwyd Ymreolaeth i Gymru ar linellau Cyngreiriol, wedi syrthio ar ysgwyddau Aelod Cymreig arall, Mr. E. T. John, yr hwn sydd yn cynrychioli Dwyreinbarth Sir Ddinbych yn y Senedd, syniadau yr hwn ar y cwestiwn ydynt gyffelyb i eiddo Lloyd George bum mlynedd ar hugain yn ol. Disgynodd deuparth o ysbryd Lloyd George ar E. T. John, ac nid anmhosibl yw mai yr olaf a sicrha eto i Gymru yr hyn a obeithiai Lloyd George gynt ei enill iddi. Dyddorol i Gymry America fydd gwybod fod gan Mr. E. T. John fuddianau masnachol pwysig yn yr Unol Dalaethau, a'i fod mor hysbys yn symudiadau y fasnach haiarn a dur yn yr Unol Dalaethau a neb o fasnachwyr America.