Tudalen:Rhamant Bywyd Lloyd George.djvu/68

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

hono. Nid oedd hyd yn nod ei Annghydffurfiaeth yn gymorth iddo. O'r pedwar enwad yn yr etholaeth, y gwanaf mewn aelodau, mewn dylanwad, ac mewn cyfoeth bydol, oedd yr un y perthynai Lloyd George iddo; ac edrychai'r enwadau y pryd hwnw yn ddrwg-dybus ar eu gilydd, pob un o honynt yn eiddigeddu wrth lwyddiant y llall. Llwyddodd ef i'w huno, gan fod felly yn rhagredegydd i Gyngrair yr Eglwysi Rhydd, y gallu geisia uno yr enwadau a'u gilydd. Yr oedd y Blaid Doriaidd, plaid y gwaed uchelryw a'r cyfoeth, eisoes wedi gwrthdystio yn erbyn "anfadwaith" sir Feirionydd yn anfon i'r Senedd Tom Ellis (mab y Cynlas, fferm fechan ger llaw'r Bala, yr hwn a ddaeth wedi hyny yn Brif Chwip y Llywodraeth o dan Arglwydd Rosebery), ac yntau, meddent, "yn ddim ond bachgen tlawd a gafodd ei fagu mewn coty." "Ah!" ebe Lloyd George pan glywodd fod hyn yn cael ei ddanod i Feirion, "Nid yw'r Toriaid wedi sylweddoli fod dydd y bachgen tlawd a mab y coty ar wawrio!" Ac yn fuan profodd, yn ei berson ei hun, fod y dydd hwnw wedi dod.

Gan nad beth a fu Lloyd George wedi myned o hono i'r Cabinet, camenw oedd ei alw yn "Rhyddfrydwr" yn nyddiau cyntaf ei fywyd gwleidyddol, canys yr oedd yn fwy ac yn llai na Rhyddfrydwr. Daeth allan yn syml fel Cenedlaetholwr Cymreig. Apeliai hyny yn gryf at elfen filwriaethus gref yn yr etholaeth. Dywedai un o'r arweinwyr y pryd hwnw: "Gwell genyf golli y sedd o dan arweiniad Cenedlaetholwr da, na'i henill gydag ymgeisydd glasdwraidd." Gan nad pa gy-