huddiad a ddygir byth i'w erbyn, ni ellir ei gyhuddo yn deg o fod yn "lasdwraidd" mewn dim ar a ymaflo ynddo. "Ni enillir etholiadau byth gan Ryddfrydiaeth ddelffaidd (humdrum Liberalism)" ebe fe yn 1885. A dyna ei syniad o hyd. Pan yn ymgyngori a mi yn nghylch ei ragolygon yn etholiad 1902, ar ol iddo sefyll mor gryf yn erbyn y Rhyfel yn Ne Affrica, ebe fe wrthyf:
"Sylwch chwi ar fy ngeiriau; mae 'Trwyadledd' bob amser yn bolisi dyogel; mae 'Cyfaddawd' bob amser yn beryglus. Nid y dynion eithafol sydd yn colli mewn etholiad, ond y sawl na safant wrth eu gynau."
Ofnai rhai o'r hen arweinwyr y byddai syniadau eithafol yr ymgeisydd ieuanc yn colli'r sedd iddynt. Cysurwyd hwynt ychydig gan Mr. S. T. Evans, y pryd hwnw yn Aelod Seneddol dros Ganolbarth Morganwg, yn awr Syr Samuel Evans, Llywydd Llys Ysgariaeth. Ebe fe:
"Peidiwch blino dim am hyny. Fe gyll Lloyd George haner ei Radicaliaeth Cenedlaethol yn Nhy'r Cyffredin!"
Arwyddair Lloyd George yn yr etholiad oedd: "Crefydd Rydd, i Bobl Rydd, mewn Gwlad Rydd!" Cymerodd ef yn mron air yn ngair o enau yr Arwr Cenedlaethol, y "Gwrthryfelwr" Owain Glyndwr. Ysgubodd fel corwynt drwy'r etholaeth gan gario pob peth o'i flaen. Dangosodd am y tro cyntaf y bywydoldeb enfawr, yr yni diflino ac anwrthwynebol a'i nodweddasant byth wed'yn yn ei yrfa boliticaidd. Yr arwyddair "Cenedlaetholdeb" a enillodd iddo'r sedd, ac a osododd gadair Prif Weinidog Prydain o fewn ei gyraedd. Enillodd iddo fwy nag ymlyniad