Cymru Fydd y Bwrdeisdrefi. Tarawyd yr holl Dywysogaeth gan yr un pla o Genedlaetholdeb. Troai llygaid pawb at Arfon. Teimlid o bosibl mwy o bryder am lwyddiant Lloyd George y tu allan i'w etholaeth nag a deimlid yn y Bwrdeisdrefi ei hun.
Daeth ei ddewisiad yn ymgeisydd Seneddol fel rhodd Nadolig iddo yn 1888. Cymerodd yr etholiad ei hun le tua dwy flynedd ar ol hyny. Heddyw, yn anterth ei ddydd, ac yntau yn eilun y bobl, a'r byd yn chwenych ei anrhydeddu, anhawdd sylweddoli fod adeg wedi bod yn ei hanes y gellid dweyd yn llythyrenol am dano, fel ag y dywedwyd am Un mwy nag ef: "At ei eiddo ei hun y daeth, a'r eiddo ei hun nis derbyniasant ef." Fwy nag unwaith bu yn llythyrenol heb le i roi ei ben i lawr yn mhlith hyd yn nod ei bobl a'i enwad ef ei hun. Nodaf ddau engraifft. Yn Nefyn, un o'r chwech Bwrdeisdref a gynrychiolir ganddo yn y Senedd, dygwydda fod ei enwad ei hun-y Bedyddwyr-yn gymharol gryf. Dygwyddent hefyd, yn dra gwahanol i Ymneillduwyr eraill, i fod y pryd hwnw yn dra Thoriaidd eu daliadau. Pan gynaliodd Lloyd George ei gyfarfod cyhoeddus cyntaf yno fel ymgeisydd Rhyddfrydol, er iddo sicrhau presenoldeb a chefnogaeth y Parch. Dan Davies, gweinidog poblogaidd gyda'r Bedyddwyr (y pryd hwnw o Fangor, yn awr o Abergwaun), nid yn unig trodd y cyfarfod yn siomedig, ond nid oedd yr un Bedyddiwr yn y gynulleidfa a gynygiai lety nos iddo. Nid oedd y pwyllgor, ychwaith, wedi trefnu llety iddo, na'r un aelod o'r Pwyllgor yn barod i'w gymeryd i'w dy! Yn