yr argyfwng hwn daeth Mr. W. O. Evans yn mlaen gan dosturio wrth y gwr ieuanc, ac a roddodd iddo fwyd a llety dros nos. Hynod iawn yw mai yn yr un ty, yr Henblas, y cafodd yr efengylydd enwog Howell Harris, lety ac ymgeledd rhag ei erlidwyr gant a haner o flynyddoedd cyn hyny.
Cyffelyb a fu profiad Lloyd George yn Nghaerdydd ychydig cynt. Yr oedd yno Gynadledd Ryddfrydol fawr o bob parth o Gymru, a Mr. Lloyd George yno dros Griccieth. Yn y cyfarfod cyhoeddus yn nglyn a'r gynadledd hono y gwnaeth yr araeth fawr y rhoddwyd dyfyniadau o honi eisoes yn y benod ddiweddaf. Gwr dyeithr oedd efe yno, heb neb yn ei adwaen, na neb yn chwenych ei gwmni. Yr oedd llety wedi cael ei ddarparu i'r cynrychiolwyr eraill oll—ond dim iddo ef. Ar ddiwedd yr oedfa, gan weled y gwr ieuanc o Griccieth yn cael ei adael heb neb yn cynyg lle iddo, aeth Gogleddwr ieuanc arall—y Parch. O. L. Roberts, Caerdydd y pryd hwnw, ond yn awr yn olynydd i'r enwog Dr. John Thomas, yn eglwys y Tabernacl, Liverpool, ato, ac wedi deall o hono nad oedd ganddo lety, anturiodd geisio llety iddo gyda Mr. Alfred Thomas, Aelod Seneddol. Gyda'i sirioldeb lletygar arferol, cydsyniodd Mr. Thomas, ac yn y Bronwydd y cafodd Lloyd George le i orphwys. Dyna ddechreu cysylltiad politicaidd dau Gymro enwog. Y Mr. Alfred Thomas hwnw a ddaeth wedi hyny yn Syr Alfred, ac yn Gadeirydd y Blaid Gymreig yn y Senedd. Ei enw heddyw yw Arglwydd Pontypridd.
Heddyw, nid oes blasdy yn y deyrnas, nac o bosibl