Gwmni Cyfyngedig, o dan yr enw "Cwmni'r Wasg Genedlaethol Gymreig, Cyfyngedig;" a phrynodd "Y Genedl Gymreig," "Y Werin," a'r "North Wales Observer and Express"—tri phapyr wythnosol i'w cyhoeddi yn yr un swyddfa yn Nghaernarfon. Hawliai'r "Genedl" y cylchrediad eangaf yn Nghymru y pryd hwnw; papyr i'r gweithiwr yn benaf oedd "Y Werin," ac i'r Saeson wrth gwrs yr oedd yr "Observer and Express."
Yr oeddwn ar y pryd yn Nghaerdydd, yn olygydd y "Cardiff Times," ac yn olygydd cynorthwyol y "South Wales Daily News." Yr oedd cyfrifoldeb a gwaith golygyddiaeth y "Daily News" ar fy ysgwyddau gan fod y prif olygydd, Mr. Sonley Johnson, yn wael yn ei afiechyd olaf. Yr oedd y Toriaid yn Nghaernarfon wedi dewis i wrthwynebu Mr. Lloyd George y tro hwn Mr. (wedi hyny Syr) John Puleston, yr hwn oedd yn Aelod Seneddol dros Devonport. Cymro o waed, calon a thafod oedd Mr. Puleston, un o'r dynion mwyaf rhadlon a chymwynasgar a fu erioed. Treuliodd y rhan fwyaf o'i oes yn yr Unol Dalaethau, lle y gwnaeth ei ffortiwn. Diameu fod eto'n aros yn mhlith Cymry'r America rai sydd yn cofio am John Puleston, a'r rhan a gymerodd yn nglyn a'r Rhyfel Cartrefol rhwng Gogledd a De yn y Talaethau. Wedi dychwelyd o hono i Brydain, cymerodd ddyddordeb mawr mewn pethau Cymreig. Daethym inau i'w gyfrinach agos. Cydweithiasom mewn nifer o fudiadau Cymreig o nodwedd genedlaethol, ond heb fod o natur boliticaidd. Ag eithrio ei ddaliadau gwleidyddol