yr oedd Mr. Puleston yn gystal Cymro a Mr. Lloyd George ei hun, ac wedi gwneyd llawer i hyrwyddo mudiadau Cymreig. Mudiad cyfrwys o eiddo'r Toriaid oedd dewis gwr o'r fath i wrthwynebu Lloyd George. Ychydig cyn yr etholiad llwyddasant hefyd i gael gan y Llywodraeth (Doriaidd) i wneuthur Mr. Puleston yn farchog, ac yn Gwnstabl Castell Caernarfon o dan y Brenin—swydd o anrhydedd a chwenychid gan fawrion Cymru ac a gododd Mr. Puleston i fri a dylanwad mawr yn yr etholaeth.
O dan ymdeimlad dwys o'r perygl oedd felly yn ei fygwth yn yr Etholiad Cyffredinol oedd bellach yn ymyl, daeth Mr. Lloyd George ar genadaeth arbenig ataf yn Nghaerdydd i grefu am fy nghymorth. Taer erfyniodd arnaf i roi fy lle ar y "South Wales Daily News" i fyny, ac ymgymeryd a rheolaeth a phrif olygyddiaeth y tri phapyr a brynwyd ganddo yn Nghaernarfon. Ymgyngorasom yn hir yn nghylch y polisi, a chefais ei fod ef yn dal cyffelyb olygiadau i'm heiddo inau ar holl brif bynciau'r dydd, ac yn enwedig ar yr hyn y dylai Cymru gael, a'r hyn a ddylai Cymru wneyd i'w gael. Felly, cydsyniais a'i gais, gadewais Gaerdydd a sicrwydd cadair prif olygydd y papyr dyddiol mwyaf ei ddylanwad yn y Dywysogaeth a Gorllewin Lloegr, a symudais i Gaernarfon i ymgymeryd a golygyddiaeth papyrau lleol yn Nghaernarfon—er mwyn Cymru a'i hawliau. Cymerodd Syr John Puleston hi yn chwith iawn fy mod i, oeddwn yn gyfaill mor fynwesol ganddo, wedi symud i Gaernarfon i gynorthwyo ei wrthwynebydd Mr. Lloyd George. Yn yr etholiad