enillodd Lloyd George gyda mwyafrif dros ddengwaith gymaint a'r tro o'r blaen. Chwerwodd Syr John Puleston yn aruthr, a phan gyhoeddwyd y ffigyrau yn ystafell y cyfrif, trodd at Mr. Lloyd George, gan ddweyd:
"Mor bell ag y mae a fyno chwi a minau, Mr. Lloyd George, gadawn i'r hyn a fu fyned yn annghof. Ond am Beriah, nis gallaf faddeu iddo tra fyddwyf byw am iddo eich cynorthwyo i'm gorchfygu."
Cadwodd Syr John Puleston ei air am flynyddoedd; ac ychydig amser cyn ei farw yn mhen hir flynyddoedd wedi hyny, y siaradodd air ac yr ysgydwodd law gyntaf a mi ar ol yr etholiad hwnw. Teg a Mr. Lloyd George yw dweyd ei fod yntau, fel Syr John, yn priodoli ei fuddugoliaeth i raddau helaeth i ddylanwad y tri phapyr.
Anhawdd i'r sawl na welsant boethder y brwydrau hyny amgyffred chwerwedd y teimladau a gynyrfid o bob tu. Yn ei ddydd-lyfr ceir y nodiad hwn gan Mr. Lloyd George:
"Rhybuddiwyd fi fod y Toriaid yn bygwth fy lladd."
Taflwyd pelen o dan i gerbyd Mr. a Mrs. Lloyd George un noson pan yn gyru yn araf drwy brif heol. dinas Bangor. Syrthiodd y belen dan ar ben Lloyd George, gan daro ei het ymaith; yna rholiodd y belen yn fflamio o hyd, ar arffed Mrs. Lloyd George. Ymaflodd yntau yn y belen a'i ddwylaw noeth gan ei thaflu allan o'r cerbyd, ac yna diffoddodd wisg ei wraig a rug y cerbyd. Oni bae am ei hunanfeddiant ef buasai hi wedi llosgi. Drylliwyd ffenestri y Pen-