rhyn Hall, Bangor, yn chwilfriw pan oedd ef yn cynal cyfarfod yno.
Ni chyfyngwyd cynddaredd y Toriaid i ddialedd personol arno ef. Perygl bywyd ambell dro oedd cefnogi Mr. Lloyd George. Am rai wythnosau cyn yr etholiad, dygais allan bapyr dyddiol "Gwerin yr Etholiad" yr unig bapyr dyddiol Cymreig a gyhoeddwyd erioed. Cynwysai newyddion diweddarach na'r un papyr dyddiol Seisnig a ddeuai i Gymru, gan ein bod yn medru argraffu rai oriau yn ddiweddarach na hwynt. Deuai'r papyr allan o'r wasg rhwng pedwar a phump o'r gloch y boreu. Arferwn aros yn y Swyddfa fy hun i weled y papyr ar y machine, ac yna cerddwn tuag adref. Yn mhen amryw wythnosau wedi i'r perygl fyned heibio y daethym i wybod mai teyrngarwch personol y gweithwyr yn y Swyddfa oedd wedi fy nyogelu rhag cael fy lladd. Ymddengys fod fy ngweithwyr wedi dod i ddeall am gyd-fradwriaeth yn mhlith nifer o wehilion Toriaidd y dref, i ymosod arnaf pan yn cerdded adref wrthyf fy hun yn nhywyllwch tawel oriau man y boreu. Felly, trefnodd y dwylaw yn y Swyddfa i nifer o honynt, pawb yn ei dro, gerdded yn ddystaw o'r tu ol i mi, a minau heb wybod, i'm gweled yn ddiangol drwy ddrws fy nhy bob boreu tra parhaodd yr helynt a'r perygl. Duw a'u bendithio am eu teyrngarwch dystaw a dirgel.
Bu bywyd Mrs. Lloyd George mewn enbydrwydd mawr yn etholiad 1895. Ar ol cyhoeddi ffigyrau'r polio, aeth Mr. Lloyd George ymaith gyda'r tren i gynorthwyo ei gyfaill, Mr. Herbert Lewis, yn