Tudalen:Rhamant Bywyd Lloyd George.djvu/80

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PENOD V.

YR AELOD SENEDDOL ANNIBYNOL.

RHENIR Ty'r Cyffredin yn Mhrydain, fel Cydgyngorfa'r Unol Dalaethau yn wahanol bleidiau politicaidd.

Hyd yn gymharol ddiweddar dwy blaid fawr a geid yn Senedd Prydain, sef y Ceidwadwyr a'r Rhyddfrydwyr. Toriaid a Whigiaid oeddent haner can mlynedd yn ol. Yna gelwid hwynt yn Geidwadwyr a Radicaliaid. Pan gymerodd y rhwyg mawr le yn y Blaid Ryddfrydol (neu Radicalaidd) ar gwestiwn Ymreolaeth i'r Werddon, newidiwyd yr enwau drachefn i "Undebwyr" (Unionists) ac "Ymreolwyr" (Home Rulers). Ond i bob dyben ymarferol gwna "Toriaid" a "Rhyddfrydwyr" y tro i'w deffinio. Ymffurfiodd yr Aelodau Cenedlaethol o'r Werddon yn Blaid ar ei phen ei hun, a gelwir hwynt yn "Blaid Wyddelig." Yn ddiweddarach mynodd Llafur gynrychiolaeth ar wahan, a galwyd y cynrychiolwyr hyn yn "Blaid Llafur." Ceisiodd yr Aelodau Cymreig, hwythau, o dro i dro, ffurfio "Plaid Gymreig" ar linellau'r "Blaid Wyddelig," ond gan mai "Rhyddfrydwyr" fel rheol, yw yr aelodau Cymreig cysylltir hwynt yn swyddogol a'r "Blaid Ryddfrydol." Yn y rhan fwyaf o faterion pleidleisia'r Gwyddelod a'r Aelodau Llafur gyda'r Blaid Ryddfrydol; ond maent