er hyny yn bleidiau ar wahan, ac yn aml yn gweithredu yn annibynol ar y Rhyddfrydwyr. Ceir felly heddyw bedair plaid yn Nhy'r Cyffredin, sef (1) Yr Undebwyr neu'r Toriaid; (2) y Rhyddfrydwyr; (3) y Blaid Wyddelig; a (4) Plaid Llafur. Dysgwylir i bob aelod fod yn ffyddlon i'w blaid, i ufuddhau i Chwip y blaid, ac i bleidleisio bob amser gyda'i blaid gan nad beth a fo ei ddaliadau personol ar y mater y pleidleisir arno. Ceir weithiau er hyny yn mhob plaid ambell un annibynol ei farn, na fyn fod yn beiriant pleidleisio, a dim ond hyny. Gwrthyd weithiau ufuddhau i Chwip ei blaid; ac, os bydd yn wr o argyhoeddiad cryf ac o galon ddewr, ac yn gweled ei blaid yn cymeryd cwrs na fedr ef ei ganlyn na'i gymeradwyo, gwrthyd "dderbyn" Chwip y blaid. Golyga hyny ei fod yn tori ei gysylltiad a'r blaid ac yn gweithredu fel aelod annibynol. Bydd hyn yna o eglurhad yn gymorth i'r darllenydd annghyfarwydd a pheirianwaith gwleidyddol Prydain, ddeall yn well yr hyn a ganlyn.
Cyn erioed iddo gael ei ethol yn Aelod Seneddol, yr oedd Mr. Lloyd George wedi dangos ei fod yn meddu ar argyhoeddiadau cryfion, yn ddyn o feddwl annibynol, ac o ysbryd diofn. Yr oedd felly yn hollol annghymwys i fod yn aelod ufudd, yn party hack, yn y Senedd. Yr oedd ei ragflaenydd Cenedlaethol, Mr. T. E. Ellis (neu "Tom Ellis" fel y'i gelwid gan bawb) wedi dadleu cyn, ac ar ol, cael ei ethol i'r Senedd, dros i'r Aelodau Cymreig fod yn fwy unol ac annibynol yn y Senedd. Ond yn lle gweithredu ar linellau y blaid