Tudalen:Rhamant Bywyd Lloyd George.djvu/85

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Bryn Roberts; ac yn y De gan Mr. D. A. Thomas. Yr oedd Mr. Bryn Roberts yn aelod dros ran o sir Gaernarfon, ac felly yn gydaelod a Mr. Lloyd George.yn y sir. Yr oedd cysylltiad agosach na hyny rhwng Lloyd George a D. A. Thomas. Dyddorol neillduol i Gymry'r America yw'r ffeithiau am gysylltiadau Lloyd George a D. A. Thomas—y gwr sydd yn awr yn yr Unol Dalaethau yn gweithredu ar ran Mr. Lloyd George a Llywodraeth Prydain i sicrhau cyfarpar rhyfel i Brydain. Ceir rhai o'r manylion am y ddau yn y benod ar "Lloyd George a Chymry'r America." Digon yw dweyd yma mai Dafydd a Jonathan a fu Lloyd George a D. A. Thomas am flynyddoedd yn y Senedd. Ymwahanasant ar gwestiwn Cymru Fydd a difodi'r Cyngreiriau Rhyddfrydol yn Nghymru—a buont am flynyddoedd heb brin siarad a'u gilydd. Llwyddodd Lloyd George i ddileu Cyngrair y Gogledd; methodd ladd Cyngrair y De. Rhanedig iawn oedd yr Aelodau Cymreig ar y cwestiwn, rhai yn glynu wrth Lloyd George a Chymru Fydd, ac eraill wrth D. A. Thomas a'r Cyngreiriau Rhyddfrydig.

Dyddorol yw sylwi wrth fyned heibio pa beth a wnaeth Joseph i'w frodyr wedi iddo gael ei ddyrchafu i fod yn ail mewn awdurdod yn llys y Brenin. Yn mhlith canlynwyr mwyaf selog Mr. Lloyd George yn y brwydrau dros Gymru Fydd yr oedd Mr. Alfred Thomas; gwnaed ef yn nghyntaf yn Farchog, gyda'r teitl o "Syr Alfred," ac wedi hyny dyrchafwyd ef i Dy'r Arglwyddi gyda'r teitl o "Arglwydd Pontypridd." Mr. Frank Edwards, yr aelod dros Faesyfed; gwnaed