Tudalen:Rhamant Bywyd Lloyd George.djvu/86

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ef yn Farwnig, "Syr Francis Edwards." Mr. Herbert Lewis, yr aelod dros Fflint, yr hwn sydd yn awr yn Is-ysgrifenydd Bwrdd Addysg. (Y diweddar) Mr. William Jones, a ddaeth yn aelod dros Arfon, ac a wnaed yn un o Chwips y Llywodraeth. Mr. Wynford Philipps, a ddaeth yn aelod dros sir Benfro, ac yna a ddyrchafwyd i Dy'r Arglwyddi gyda'r teitl "Arglwydd Ty Ddewi." Mr. William Brace, un o arweinwyr y Glowyr, a ddaeth yn aelod dros Dde Morganwg, ac sydd yn awr yn Is-ysgrifenydd Cartrefol. Mr. Llewelyn Williams, a ddaeth yn Aelod dros Fwrdeisdrefi Caerfyrddin, ac sydd yn awr yn Gofiadur Dinas Caerdydd. Yn mhlith eraill o hen ddylynwyr Lloyd. George sydd yn awr yn y Senedd gellir enwi Mr. John Hugh Edwards, yr aelod dros Ganol Morganwg, a'r Parch. J. Towyn Jones, yr aelod dros Ddwyreinbarth Caerfyrddin. Maent oll yn enwau adnabyddus yn myd cyhoedd Prydain. Gwelir mai nid eiddilod oedd y rhai a gasglwyd gan Lloyd George o dan ei faner.

Ond a siarad yn gyffredinol, methiant a fu mudiad Cymru Fydd. Tegwch a D. A. Thomas yw dweyd ei fod yn gymaint o Genedlaetholwr ag ydoedd Lloyd George, ac mai ei brif wrthwynebiad i gyfundrefn Cymru Fydd oedd ei bod yn gofyn cael un corff canolog i'r oll o Gymru, tra yr oedd anhawsderau teithio rhwng Gogledd a De yn ei gwneyd yn ofynol, yn ei farn ef, i gael dau bwyllgor, un i'r Gogledd a'r llall i'r De. Heddyw ceir Cymdeithas Ryddfrydol, neu enw o un yn mhob etholaeth yn Nghymru, a "Chyngor