Rhyddfrydol Cenedlaethol Cymreig," gydag Arglwydd Ty Ddewi yn llywydd iddo, yn arolygu yr oll, ac yn swatio yn ufudd bob amser i orchymynion Rhyddfrydwyr Lloegr. Ond er mai methiant a drodd mudiad Cymru Fydd fel cyfundrefn y pryd hwnw, deffrodd Lloyd George yn Nghymru ysbryd o wrthryfel yn erbyn awdurdod Rhyddfrydiaeth swyddogol Lloegr, sydd yn fyw ac yn effro hyd y dydd hwn, ac yn ei gwneyd yn anmhosibl i'r Llywodraeth Ryddfrydol gael ei dewis-ddyn ei hun yn aelod dros nemawr i etholaeth yn Nghymru. Gwrthododd fwy nag un etholaeth yn Nghymru dderbyn y gwr a ddymunai'r awdurdodau yn Llundain iddynt ei ethol. Yn sir Gaerfyrddin gorchfygodd y Parch. Towyn Jones fab Arglwydd Ty Ddewi. Yn Nosbarth Abertawe gwrthryfelodd y werin yn erbyn y Gymdeithas Ryddfrydol am dderbyn o honi Mr. Masterman, Sais, a chyn-aelod o'r Cabinet, er i Mr. Lloyd George ei hun ysgrifenu yn daer at etholwyr y lle yn crefu arnynt i ddewis Mr. Masterman. Gorfu i Masterman gilio o'r maes, ac etholwyd Mr. T. J. Williams, Treforris, yn ddiwrthwynebiad. Cafodd Mr. Lloyd George felly fyw i weled yr ysbryd a alwyd ganddo ef i fodolaeth dros ugain mlynedd yn ol, yn dal yn ffyddlon at y ddelfryd a osododd efe y pryd hwnw o flaen Cymru, ac yn troi i'w erbyn ef pan dybiodd gwerin Cymru ei fod ef wedi ymgysylltu ag eilunod Philistiaeth Lloegr.
Nodweddid blynyddoedd cyntaf Mr. Lloyd George yn y Senedd gan wrthryfel ar ol gwrthryfel o'i eiddo ef ac ychydig o ymlynwyr personol, yn erbyn pob aw-