Tudalen:Rhamant Bywyd Lloyd George.djvu/89

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

durdod yn y Senedd. Efe a Mr. (yn awr Syr) S. T. Evans a ymladdodd yn erbyn Mesur y Degwm. Lloyd George gyda Tom Ellis, S. T. Evans a D. A. Thomas— ac weithiau Wynford Philipps a Mr. (yn awr Syr) Henry Dalziel, a ymladdodd yn gyndyn yn erbyn Mesur Dysgyblaeth Offeiriaid. Llwyddodd y pedwar Cymro, gyda help achlysurol y ddau aelod a nodwyd o'r Alban, i herio holl allu y Llywodraeth Doriaidd, er i gorff Rhyddfrydwyr Lloegr gynorthwyo'r Toriaid. Bum yno lawer noson yn y Ty yn edrych ar y frwydr, ar bedwar Cymro yn gallu rhwystro chwe chant o aelodau eraill i basio'r Mesur. Awr ar ol awr, nos ar ol nos, am wythnosau, y llwyddasant i ddal "y ffosydd" yn y rhyfel Seneddol hynod hwn. Ni bu na chynt na chwedyn gyffelyb wrhydri erioed yn Senedd Prydain. Fawr.

Pan ddaeth Etholiad Cyffredinol 1892 i'r golwg, tybiodd Lloyd George fod buddugoliaeth yn aros y Rhyddfrydwyr. Yr oedd wedi bod yn Aelod Seneddol y pryd hwnw am tua dwy flynedd. Yn yr etholiad hwn y gorchfygodd efe Syr John Puleston, fel y gwelir yn y benod o flaen hon. Yr oedd Lloyd George wedi bod yn ddigon hir yn y Senedd i ganfod fod gallu'r Weinyddiaeth i wobrwyo y sawl a ufuddhaent iddi, yn andwyol i annibyniaeth barn a gweithred aelodau Seneddol. Penderfynodd felly cyn y deuai yr Etholiad Cyffredinol ffurfio o leiaf gnewyllyn Plaid Gymreig Annibynol. Cafodd Tom Ellis, S. T. Evans a Herbert. Lewis i gyduno ag ef. Ymrwymodd y pedwar na dderbyniai yr un o honynt swydd yn, nac o dan, y