i gael gan yr holl aelodau Rhyddfrydol Cymreig i ymuno yn y gwrthryfel, gorchfygasent y Weinyddiaeth, a rhaid fuasai i Rosebery ymddiswyddo. Pan ofynwyd y cwestiwn yn gyhoeddus yn Nghymru i Mr. Lloyd George a oedd efe yn barod i daflu'r Weinyddiaeth Ryddfrydol allan ar y cwestiwn hwn o Ddadgysylltiad, ac felly aberthu y mesurau diwygiadol eraill oedd ar raglen y Blaid, atebodd:
"Nid ydym am gynorthwyo'r Llywodraeth i dori eu gair i Gymru. Os myn y Llywodraeth barhau y polisi (o osod Mesurau eraill o flaen Mesur Dadgysylltiad) boed eu gwaed ar eu penau hwy eu hunain!"
Mewn llythyr at gyfaill, cyfiawnhaodd Mr. Lloyd George y gwrthryfel ar y tir fod y Llywodraeth wedi gwrthod rhoi ymrwymiad pendant y pasient Ddadgysylltiad y flwyddyn hono, nac hyd yn nod i roddi'r flaenoriaeth i Fesur Cymru ar bob mesur arall oddigerth y Gyllideb a Chofrestraeth. Ond rhoddodd Tom Ellis, y Prif Chwip, yr ymrwymiad pendant a ganlyn ar ran Arglwydd Rosebery a'r Weinyddiaeth:
"Eir yn mlaen a Mesur Dadgysylltiad i Gymru, a mynir ei gario drwy Dy'r Cyffredin, er na ellir, mor gynar a hyn yn y flwyddyn, ddweyd a fydd rhaid i'r Senedd eistedd yn yr Hydref ai peidio er sicrhau hyny."
Er i'r ymrwymiad pendant hwn gael ei gadarnhau gan y Prif Weinidog, Arglwydd Rosebery, mewn araeth yn Birmingham, pan y dywedodd y mynai'r Llywodraeth basio Mesur Dadgysylltiad trwy Dy'r Cyffredin cyn y ceid Etholiad Cyffredinol, cynygiodd Mr. Lloyd George, yn nghyfarfod o'r Aelodau Cym-