pellach yn erbyn y Llywodraeth, rhanwyd Ty'r Cyff- redin ar gwestiwn "Cordite" Mr. (wedi hyny Syr) Henry Campbell Bannerman. Gorchfygwyd y Llywodraeth drwy fwyafrif o saith yn unig. Nid oedd ond tri o'r holl Aelodau Cymreig yn y Ty yn pleidleisio gyda'r Llywodraeth. Pe bae Mr. Lloyd George a'i gyfeillion yno ac yn pleidleisio, achubasid y Llywodraeth. Dywedodd Lloyd George ei hun wedi hyny fod saith o aelodau'r Weinyddiaeth ei hun yn absenol o'r pleidleisio. Yn ol arfer a defod y Senedd pan orchfygir Gweinyddiaeth, ymddiswyddodd Arglwydd Rosebery a'r Llywodraeth Ryddfrydol.
Yn yr Etholiad Cyffredinol (1895) tarawyd y Blaid Ryddfrydol gan ei gelynion y Toriaid "glin a borddwyd, o Dan hyd yn Beerseba" yn mhob rhan o Brydain. Fawr oddigerth Cymru. Daliodd Cymru ei thir yn gadarn. Cadwodd Lloyd George ei sedd yn Mwrdeisdrefi Arfon, er i'w fwyafrif syrthio ychydig yn is na'r tro o'r blaen. Pan gymerodd ei sedd yn y Senedd. newydd, a'r Toriaid mewn awdurdod, dangosodd nad oedd ei gledd wedi colli dim o'i awch, na'i dafod ei fin. Nis gallai neb ddysgwyl i'r gwr oedd wedi gwrthryfela yn erbyn Arglwydd Rosebery fod yn fachgen da o dan Mr. Balfour a'i Weinyddiaeth Doriaidd, nac ychwaith i dalu llawer o barch i orchymynion Syr Henry Campbell Bannerman, yr hwn oedd yn arweinydd swyddogol y Blaid Ryddfrydol yn Nhy'r Cyffredin. Ymgyflwynodd Lloyd George i'r gwaith o flino'r Llywodraeth Doriaidd yn ddibaid, a dyrysu ei holl gynlluniau. Yn arbenig ymgymerodd ag ymosod bob