cyfle a gai ar Mr. Joseph Chamberlain, yr hwn yn awr oedd yn Ysgrifenydd y Trefedigaethau. Mewn amser ac allan o amser, heb aros am ganiatad ei arweinydd Syr Henry Campbell Bannerman, nac ymgyngori ag awdurdodau'r Blaid Ryddfrydol o gwbl, ymosodai yn ddibaid a diarbed ar y Weinyddiaeth. Yr oedd ei dafod llym a pharod, ei arabedd, ei feddwl cyflym, a'i feiddgarwch diofn, yn ogystal a'i allu areithyddol, yn ei wneyd yn elyn peryglus; tra y medrai hefyd, er holl lymder ei ymosodiad, fod yn hollol ddiwenwyn. Daeth felly yn ffafrddyn ac yn siaradwr poblogaidd yn y Senedd. Efe yn wir a gadwodd fywyd yn y Blaid Ryddfrydol yn y Senedd, gan gyflawnu ei hun y gwaith y dylasai Arweinydd y Blaid, Syr Henry Campbell Bannerman, fod wedi ei wneuthur. Ar hyd oes Senedd 1895 Mr. Lloyd George ac nid Syr Henry oedd yn ymarferol yn arweinydd y Blaid Ryddfrydol yn Nhy'r Cyffredin.
Cafodd gyfle nodedig i ddangos ei allu fel ymladdwr, ac i wneyd gwasanaeth anmhrisiadwy i'w Blaid, pan ddygodd y Toriaid Ddeddf Trethiant Amaethyddol ger bron. Er i Syr William Harcourt, Mr. John Morley, Mr. Asquith, Syr Henry Bannerman, ac eraill o'r Rhyddfrydwyr blaenaf, gymeryd rhan yn y dadleuon, cydnabyddid yn gyffredinol fod araeth Mr. Lloyd George ar yr ail ddarlleniad yn rhagori arnynt oll mewn grym, mewn llymder, mewn rhesymeg, mewn pwysau, ac mewn effeithiolrwydd. Pan ddygwyd y Mesur i'w drin gan Bwyllgor y Ty, drachefn, gwnaeth Lloyd George ei hun fwy o waith ac o wrhydri