Seneddol na'r pedwar arweinydd enwog uchod gyda'u gilydd. Dro ar ol tro y rhwystrodd y Mesur i fyned dim rhagddo, ar waethaf holl ymdrechion y Llywodraeth. Yr oedd byth a beunydd ar ei draed yn codi rhyw bwynt newydd, neu yn gwneuthur araeth faith, a hyny mor fynych ac mor effeithiol fel y gallasai dyeithrddyn a fa'i yn ymweled a Thy'r Cyffredin y dyddiau hyny dybied mai "one man show" oedd y Senedd, ac mai Lloyd George oedd y Showman!
Ac yr oedd ganddo nod ac amcan clir o'i flaen yn yr oll. Yr oedd o bwrpas yn ceisio gyru'r Llywodraeth Doriaidd i wneuthur rhywbeth a'u dangosent yn llygaid y wlad fel rhai yn ceisio mygu dadl ar Fesur o Drethiant—man tyner iawn gan drethdalwyr y deyrnas! A llwyddodd nid yn unig i wneyd i'r Llywodraeth ymddangos fel ar fai yn ngolwg y wlad, ond i ddyrchafu ei hunan fel arwr ac amddiffynydd cam y werin. Cadwodd y Ty i eistedd drwy'r nos, bob nos am wythnos. Am bedwar o'r gloch y boreu, pan oedd pawb ond Lloyd George wedi alaru ar y cwestiwn ac wedi hen flino ar y dadleu ofer, rhoddodd y Llywodraeth y "cloadur" mewn grym. Trefniant yw'r "cloadur" drwy yr hwn y geill y Llefarydd, neu Gadeirydd y Ty neu'r Pwyllgor, os barna efe fod digon o ddadleu wedi bod ar unrhyw bwnc, roi terfyn ar y ddadl ar y pwnc hwnw drwy orchymyn rhanu'r Ty a chymeryd pleidlais heb ragor o siarad arno. Yn ol deddf y Senedd, rhaid i bob aelod o'r Ty fo yno pan y cymerir pleidlais, fyned i'r Lobby bleidleisio, i'r dde neu'r aswy, i bleidleisio "Ie" neu "Nage" i'r mater