Tudalen:Rhamant Bywyd Lloyd George.djvu/99

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gwaith caled y Senedd; aethant i lawr i Gymru, lle y derbyniwyd y ddau fel arwyr mawr hawliau'r werin. Pe bae etholiad wedi cymeryd lle yr wythnos hono, buasai mwyafrif y ddau wrthryfelwr yn orlethol.

Dau ddyn mawr y Rhyddfrydwyr y pryd hwn oeddent Arglwydd Rosebery, y cyn-Brif Weinidog, a Syr William Harcourt, cyn-Gangellydd y Trysorlys. Nid oedd gan y naill na'r llall lawer o achos i garu Lloyd George. Efe oedd y gwr oedd wedi gwrthryfela i'w herbyn ac wedi eu cyhuddo yn gyhoeddus o fradychu achos Cymru. Ond gwnaeth wasanaeth mor fawr wrth ymladd yn erbyn y Llywodraeth Doriaidd, fel yr argyhoeddwyd hwynt mai gwell fyddai gwneyd ffryndiau ag ef rhag iddo beri trafferth eto i'r Rhyddfrydwyr pan ddeuai'r Blaid hono drachefn i awdurdod. Felly, wele'r bachgen a fagwyd yn shop crydd y pentref yn cael ei wahodd fel ymwelydd anrhydeddus i Gastell Dalmeny, cartref Arglwydd Rosebery yn yr Alban; a Syr William Harcourt yn dweyd fod mwy o synwyr Seneddol yn mys bach Lloyd George nag mewn un haner cant o aelodau Seneddol eraill. Yn wir, yr oedd y bachgen drwg a wrthryfelodd yn erbyn y Llywodraeth Ryddfrydol, mewn perygl o gael ei "spwylio" gan foethau prif awdurdodau'r blaid—er na ddymunai y rhai hyny ddim yn well na chael y cyfle o roddi eitha chwipio iddo am ei aml droseddau i'w herbyn.

Yn y Senedd dymor canlynol drachefn parhaodd yr un cwrs yn erbyn y Llywodraeth Doriaidd yn nglyn a Mesur Ysgolion Enwadol. Mesur oedd hwn yn rhoddi mwy o arian y wlad i gynorthwyo ysgolion enwadol,