A weli di un yn sefyll, A'i lygad fel fflam y nef? A weli di bob creadur Yn plygu o'i amgylch ef? A weli di hwn yn ymdaith Ymlaen at arfogaeth well, A'r niwl dros ei gamre cyntaf Yn cau mewn anoddun pell?