Tudalen:Rhigymau'r Ffordd Fawr.pdf/14

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Gwn fod arian ymhob gofer
Pan fo'r lleuad uwch fy mhen.

Ffarwel, Falen, gyda'th gwmwl.
Gyda'th wep a'th wyneb hir!
Dyma'r coed yn curo'u dwylaw
Gan orfoledd mawr y tir.
Dyma win o gawg Mehefin,—
Hwt i'th guwch a'th sobrwydd di!
Dyma'r berth a minnau'n chwerthin,—
Ha ha ha! Hi! hi! hi! hi!